Ariannu Ysgolion

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:20, 21 Medi 2022

Diolch, Weinidog. Ar ymweliad ag ysgolion yn fy rhanbarth ddechrau'r tymor, roedd y pennaeth yn sôn wrthyf i am ei phryder am wresogi a goleuo'r dosbarthiadau eleni; roedd hi wrthi fel lladd nadroedd yn trio diffodd pob switsh mewn golwg. Ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio bod cyllidebau ysgolion ar draws Cymru'n wynebu heriau enfawr yn sgil effaith chwyddiant a phrisiau ynni. Yn ôl arolwg gan y National Association of Head Teachers, mae 37 y cant o benaethiaid yn rhagweld bydd y costau hyn yn creu diffyg yn eu cyllidebau, a na fydd opsiwn heblaw ystyried diswyddiadau. Byddai hynny'n drychinebus ar adeg pan fo ein plant a'n pobl ifanc angen y gefnogaeth orau bosib yn sgil effaith y pandemig ar eu haddysg. Mae NAHT Cymru hefyd wedi rhybuddio am effaith niweidiol bosib os na fydd awdurdodau lleol yn darparu'r cyllid llawn ar gyfer codiadau cyflog athrawon, ond mae Llywodraeth Cymru wedi datgan na fydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer hyn. Felly a fydd unrhyw gefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael ar gyfer ysgolion er mwyn ymdopi â'r holl heriau ariannol hyn?