Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 21 Medi 2022.
O ran costau tâl y gweithlu, mae'r arian hwnnw eisoes wedi ei ddyrannu fel rhan o negodiadau yr RSG y llynedd. Dyna oedd y sail iddyn nhw gael eu cytuno. Rwy'n cytuno â beth mae Sioned Williams yn ei ddweud ynglŷn â'r pwysau sydd ar ein hysgolion ni oherwydd cynnydd mewn costau gwresogi a chostau eraill o ran chwyddiant ac ati. Fel mae'r Aelod yn gwybod o'r hyn rôn ni'n ei drafod yn y Senedd ddoe, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn prynu £600 miliwn yn llai o adnoddau ac o wasanaethau nag oedd hi ym mis Tachwedd diwethaf. Felly, mae galw ar y Prif Weinidog yn San Steffan a'r Canghellor i sicrhau ein bod ni'n cael arian i wneud i fyny am hynny, oherwydd dyna oedd pawb yn cytuno ar ddiwedd y llynedd oedd yr angen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Dim ond gan y Llywodraeth yn San Steffan mae'r gallu a'r grym ariannol i allu gwneud yn iawn am hynny.
Does dim, yn anffodus, atebion syml yn y maes hwn. O ran cyllidebau ysgolion yn benodol—roedd yr Aelod yn sôn am waith y WLGA yn hyn o beth—rŷn ni yn gwybod, yn sgil y ffaith ein bod ni wedi parhau i ariannu ysgolion dros gyfnod COVID, er bod llai o ddarpariaeth wedi bod mewn amryw o ffyrdd gwahanol, fod yr arian wrth gefn sydd gan ysgolion yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol iawn dros y cyfnod hwnnw. Felly, rŷn ni yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio gydag ysgolion i sicrhau bod defnydd y ffynhonnell honno o arian hefyd yn cael ei gymryd i mewn i ystyriaeth wrth edrych ar y sefyllfa heriol mae ysgolion yn ei wynebu.