Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 21 Medi 2022.
Mae'r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion ni. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi egluro yn y Senedd ddoe mai dim ond y Llywodraeth yn San Steffan sydd â'r grym ariannol i fynd i'r afael gydag effeithiau andwyol y cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill.