2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 21 Medi 2022.
5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i ysgolion yn sgil yr argyfwng costau byw? OQ58411
Mae'r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion ni. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi egluro yn y Senedd ddoe mai dim ond y Llywodraeth yn San Steffan sydd â'r grym ariannol i fynd i'r afael gydag effeithiau andwyol y cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill.
Diolch, Weinidog. Yn sicr, fel gwnaeth y Prif Weinidog bwysleisio hefyd, mae yna rôl gan y Llywodraeth hon ac mae yna bethau y gallem ni fod yn eu cyflawni. Soniodd y Prif Weinidog ddoe am yr ymgyrch o ran sicrhau bod pobl yn cymryd pob buddiant sydd ar gael ar y funud, gan gynnwys y rhai sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Yn yr Alban, mae ganddyn nhw gynghorwyr mewn ysgolion penodol i gefnogi rhieni i sicrhau eu bod nhw'n cael pob buddiant. Ydy hyn yn rhywbeth yr ydych yn ystyried ei gyflwyno yma yng Nghymru?
Mae eisoes yn digwydd mewn rhai ysgolion yng Nghymru. Mae ysgolion yn cefnogi teuluoedd mewn pob math o ffyrdd i sicrhau eu bod nhw'n cael mynediad at gefnogaeth ehangach. Un o’r ystyriaethau wnaeth y Prif Weinidog sôn amdano ddoe, wrth gwrs, oedd bod angen sicrhau bod unrhyw gysylltiad rhwng teuluoedd ac unrhyw gorff cyhoeddus yn caniatáu i bobl ddeall yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael ar eu cyfer nhw. Un o'r pethau, fel efallai fod yr Aelod yn gwybod, y gwnaethom ni ei ystyried yng nghyd-destun cynllun prydau am ddim oedd sut i atgoffa teuluoedd, er eu bod nhw'n cael prydau am ddim, os ydyn nhw'n gymwys eisoes i dderbyn cefnogaeth benodol, eu bod nhw'n gwybod hynny a bod cyfle iddyn nhw hysbysu'r ysgol o hynny fel bod yr ysgol yn gallu sicrhau eu bod nhw'n cael mynediad at yr ystod ehangach yna o gefnogaeth sydd i'w chael eisoes. Ac mae mwy i'w wneud hefyd o ran cyfathrebu a sicrhau ein bod ni hefyd fel Llywodraeth yn darparu gwybodaeth i ysgolion allu cefnogi teuluoedd sydd mewn angen.
Weinidog, diau y bydd y gost o gyflenwi ynni i adeiladau ysgolion, gyda'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni cyfanwerthol, yn rhoi straen enfawr ar gyllid, sydd, fel y gwyddom, eisoes dan bwysau sylweddol. O ganlyniad, mae'r ffaith y bydd yn rhaid i benaethiaid wneud toriadau staffio er mwyn cydbwyso cyllidebau, fel yr amlygwyd ynghynt gan Aelodau eraill, yn peri pryder gwirioneddol. Er ein bod ni i gyd yn cytuno bod y sefyllfa y mae ysgolion ynddi ymhell o fod yn ddelfrydol, credaf fod y sefyllfa bresennol yn rheswm dros fuddsoddi'n fwy helaeth yn effeithlonrwydd ynni adeiladau ysgolion. Tybed felly pa gynlluniau sydd gennych i uwchraddio effeithlonrwydd ynni adeiladau ysgolion ledled Cymru, ac o ystyried bod gan lawer ohonynt doeau addas iawn a digon o dir i gefnogi cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, tybed a yw'r Llywodraeth hon am ddarparu buddsoddiad i alluogi ysgolion yng Nghymru i osod paneli solar neu dyrbinau gwynt addas. Diolch.
Wel, mae hwnnw'n ateb mwy hirdymor i'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio'n gywir fel un sydd ar fin digwydd i ysgolion, ac rwy'n gobeithio, fel rwy'n siŵr y bydd ef, pan fydd y datganiad yn cael ei wneud ddydd Gwener, y bydd Prif Weinidog y DU yn glir ynghylch yr ymrwymiad y mae'n ei roi i fusnesau ac i unigolion am y cymorth tuag at gostau ynni, sy'n sicr yn angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU yn teimlo'r pwysau anhygoel y byddent yn ei deimlo fel arall.
Ar y pwynt ehangach a wnaeth yr Aelod, mewn nifer o ffyrdd fe fydd yn gwybod bod gennym raglen i sicrhau bod ystad yr ysgol, fel pob rhan arall o'r ystad gyhoeddus yng Nghymru, yn gwneud ei gyfraniad tuag at gyrraedd y nodau, y targedau uchelgeisiol a osodwyd gennym er mwyn gwneud Cymru yn genedl sero net. Felly, o ran ysgolion a adeiladir o'r newydd, fel y gŵyr, o 1 Ionawr eleni, bydd angen i unrhyw ysgol sy'n gofyn am arian gan Lywodraeth Cymru fod yn ysgol sero net. Ond mae yna lawer o ysgolion, yn amlwg, sy'n llawer hŷn na hynny ac mae cryn dipyn o ystad yr ysgol angen buddsoddiad er mwyn iddynt hwy allu cyfrannu hefyd, ac mae gwaith ar y gweill i ddeall hyd a lled hynny gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol ac edrych wedyn ar sut y gellir mapio hynny i'r dyfodol.
Weinidog, mae diddordeb sylweddol wedi bod yn yr ymgynghoriad yr adroddwyd yn ei gylch ar wisgoedd ysgol, a siaradodd y Prif Weinidog am hyn ddoe. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y grant datblygu disgyblion i roi hyd at £200 o gymorth i fwy o deuluoedd gyda chostau gwisg ysgol a chit ysgol, ond mae Cymdeithas y Plant wedi dweud bod cost gyfartalog gwisg ysgol yn dal i fod dros £300 y plentyn y flwyddyn, ac mae hynny’n annheg ac yn gwbl ddiangen. Mae tair blynedd ers inni gyflwyno canllawiau i wella fforddiadwyedd gwisg ysgol—dwy flynedd cyn Lloegr hynny yw—ac mae Llywodraethau Torïaidd olynol San Steffan wedi ehangu’r anghydraddoldeb. Nawr rydym yn gweld bod banciau gwisg ysgol yn agor, ochr yn ochr â banciau bwyd, ochr yn ochr â'r banciau cynhesu arfaethedig, ac eto gall y bancwyr gael eu bonysau disgwyliedig. A wnewch chi ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae ysgolion yn fy rhanbarth yn ei wneud i sicrhau bod teuluoedd yn hawlio’r holl gymorth sydd ar gael iddynt, ac am yr amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw?
Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae’n gywir i ddweud, wrth gwrs, fod costau gwisg ysgol yn bryder sylweddol i lawer o deuluoedd. Ysgrifennais at ysgolion dros doriad yr haf, tuag at ddiwedd y toriad, i ddweud wrthynt y byddwn yn edrych eto, fel y mae'n dweud, ar y canllawiau sydd wedi bod ar waith ers tair blynedd, i bob pwrpas, ar hyn o bryd, ond mae maint y mater yn golygu bod angen inni edrych eto ar beth arall y gallwn ei wneud. Gwyddom y gall cost gwisg ysgol gyda logos ysgol fod yn broblem wirioneddol i deuluoedd, felly byddaf am edrych i weld a yw hynny’n gwbl angenrheidiol ac a ddylai fod yn ofynnol i ysgolion ddarparu logos haearn smwddio yn rhad ac am ddim, fel y gellir cynnal rhinweddau’r wisg ysgol heb i'r rhai sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd orfod talu'r costau.
Ein grant datblygu disgyblion ni yma yng Nghymru yw’r grant mwyaf hael yn unrhyw ran o’r DU. Mewn gwirionedd mae’n werth hyd at £300 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7, sy’n flwyddyn lle mae’r costau’n arbennig o heriol, a £225 i flynyddoedd eraill, ac fe gafodd ei gynyddu i’r lefel honno eleni. A dyna un o amrywiaeth o ffyrdd yr awn ati i gefnogi teuluoedd, ond mae'r pwysau y mae teuluoedd yn ei deimlo oherwydd costau yn real iawn ac mae llawer o deuluoedd nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn amlwg yn ei chael hi'n anodd, a dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau hyn, fel cost gwisg ysgol.