Cefnogaeth i Fyfyrwyr

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:16, 21 Medi 2022

Wel, rŷch chi wedi ateb fy nghwestiwn nesaf i, rwy'n credu, a diolch ichi am hynny, oherwydd rôn i'n mynd i dynnu sylw at y ffaith bod etholwr sy'n dechrau gradd nyrsio oedolion eleni wedi cysylltu â mi yn esbonio y bydd yn derbyn £5,855 y flwyddyn i'w gynorthwyo â chostau byw. Wrth gwrs, mae costau llety hunanarlwyo i fyfyrwyr dros £6,000 yn ei achos ef, felly mae yna ddiffyg yna yn barod, heb sôn am roi bwyd ar y bwrdd. Ond beth roedd e'n ei ddweud oedd, wrth gwrs, pe bai e'n astudio cwrs arall neu'n penderfynu peidio â chymryd bwrsariaeth iechyd tuag at ffioedd y cwrs, yna mi fyddai fe'n gallu cael hyd at £10,700 y flwyddyn i dalu costau byw. Y cwestiwn roedd e am i fi ofyn oedd pam fo gymaint o wahaniaeth yn hynny o beth a beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r anghymelliad, neu'r disincentive, yna i rywun fod yn astudio cwrs i fod yn nyrs, yn enwedig yng nghyd-destun y ffaith bod yna ddiffyg yn y gweithlu. Felly, dwi'n croesawu'r ffaith bod yna adolygu yn digwydd, ond efallai y gallwch chi roi syniad inni o bryd bydd yna newid ar lawr gwlad.