Cefnogaeth i Fyfyrwyr

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:17, 21 Medi 2022

Mae rhai newidiadau wedi digwydd eisoes. Felly, mae HEIW eisoes wedi cynyddu'r lwfans sydd ar gael i fyfyrwyr ynglŷn â llety placements er enghraifft, a hefyd trafnidiaeth. Felly, mae rhai camau eisoes wedi cael eu cymryd. Rŷn ni wedi sefydlu bwrdd rhaglen bwrsariaethau a chymhellion er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu adnewyddu'r fwrsariaeth i sicrhau ei fod e yn creu cymhelliad, fel mae'r Aelod yn dweud. Byddan nhw'n edrych ar ystod eang o ffactorau, yn cynnwys y rhai mae e wedi sôn amdanyn nhw heddiw.