Ariannu Ysgolion

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 2:22, 21 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau sy'n wynebu ein hysgolion yn sgil yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd, a chanfu arolwg diweddar gan Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) fod athrawon yn darparu arian, bwyd a dillad i helpu plant a theuluoedd gyda phwysau costau byw. Dywedodd hefyd fod bron i saith o bob 10 athro wedi gweld bod llai o egni gan fwy o'u disgyblion a llai o allu i ganolbwyntio hefyd. Weinidog, o ystyried ei bod yn hysbys fod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar les athrawon a disgyblion, pa gefnogaeth bellach y gellid ei darparu i athrawon, disgyblion a theuluoedd i'w helpu drwy'r cyfnod anodd a heriol hwn?