Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 21 Medi 2022.
Y gaeaf hwn fydd un o'r rhai mwyaf heriol yn hanes datganoli, oherwydd bydd yr argyfwng costau byw yn cael effaith greulon a didrugaredd ar bawb bron, ond yn enwedig y rhai mwyaf bregus, heb ymyrraeth sylweddol gan y wladwriaeth. Mae addysg yn un o'r nifer o feysydd lle bydd yr argyfwng hwn i'w deimlo. Bydd rhai plant nad ydynt yn gymwys ar gyfer ein polisi prydau ysgol am ddim yn llwglyd y gaeaf hwn. A ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i alwadau Plaid Cymru i ymestyn y rhaglen prydau ysgol am ddim i bawb fel mesur brys i gynnwys plant ysgolion uwchradd? Ac yn sgil eich ateb i Sioned Williams yn gynharach—nad oes unrhyw arian pellach ar gael i ysgolion i fynd i'r afael â'r costau cynyddol—lle byddech chi'n awgrymu y dylai penaethiaid dorri eu cyllidebau er mwyn cadw'r goleuadau ynghyn?