Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 21 Medi 2022.
Weinidog, ar ôl cyfnod mor gythryblus, gydag effaith y pandemig yn amlwg yn effeithio ar fywydau ein pobl ifanc, mae’n iawn inni ddathlu cyflawniadau ein holl bobl ifanc sydd wedi dangos cymaint o gryfder wrth gwblhau eu hastudiaethau. Bydd llawer wedi cael trafferth oherwydd absenoldeb, ac mae rhai wedi cwestiynu tegwch y canlyniadau. Pa wersi y gallwn eu dysgu o brofiad y garfan hon o ddisgyblion wrth i ni gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt? Diolch.