2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 21 Medi 2022.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau arholiadau 2022 yng Ngorllewin De Cymru? OQ58377
Mae Cymwysterau Cymru wedi ceisio darparu canlyniadau graddau ar gyfer Safon Uwch a TGAU cymeradwy sydd oddeutu hanner ffordd rhwng haf 2019 a haf 2021, ar lefel genedlaethol. Ac mae’r canlyniadau a gyflawnwyd gan ddysgwyr yn dangos eu gwytnwch, ac rwy’n eu llongyfarch i gyd ar eu cyflawniadau.
Weinidog, ar ôl cyfnod mor gythryblus, gydag effaith y pandemig yn amlwg yn effeithio ar fywydau ein pobl ifanc, mae’n iawn inni ddathlu cyflawniadau ein holl bobl ifanc sydd wedi dangos cymaint o gryfder wrth gwblhau eu hastudiaethau. Bydd llawer wedi cael trafferth oherwydd absenoldeb, ac mae rhai wedi cwestiynu tegwch y canlyniadau. Pa wersi y gallwn eu dysgu o brofiad y garfan hon o ddisgyblion wrth i ni gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt? Diolch.
Wel, rwyf am dderbyn y gwahoddiad i ailadrodd fy llongyfarchiadau i bobl ifanc yng Nghymru, sydd wedi bod drwy gyfnod anodd iawn. Mewn rhai ffyrdd, rwy’n credu mai’r flwyddyn ddiwethaf hon oedd y fwyaf aflonyddgar o ran y profiad yn yr ystafell ddosbarth, ac felly roedd dychwelyd at arholiadau yn y cyd-destun hwnnw yn dasg arbennig o heriol yn fy marn i. Ond rwy’n credu bod y canlyniadau wedi dangos dycnwch ein pobl ifanc, eu hymrwymiad i’w dysgu eu hunain, a’r gwaith anhygoel y mae athrawon a’r gweithlu addysg ehangach wedi’i wneud i gefnogi ein pobl ifanc. Rydym yn edrych ar y flwyddyn nesaf yn barod wrth gwrs. Bydd pobl sy’n astudio arholiadau y flwyddyn nesaf wedi profi aflonyddwch yn ystod y flwyddyn hon felly bydd rhai gwersi i’w dysgu o brofiadau’r flwyddyn ddiwethaf yn y cyd-destun hwnnw wrth gwrs.
Mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi dweud na fydd yr addasiadau i gyrsiau penodol y bu’n rhaid eu gweithredu eleni yn weithredol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, bydd pobl ifanc yn cael gwybod ymlaen llaw pa feysydd fydd yn cael eu harholi fel y gallant ganolbwyntio eu gwaith adolygu yn y ffordd honno, felly mae honno’n un agwedd a fydd yn cael ei datblygu o eleni ymlaen. Ac mae Cymwysterau Cymru yn gweithio gyda rheoleiddwyr arholiadau eraill mewn rhannau eraill o'r DU ar hyn o bryd mewn perthynas â graddio a ffiniau graddau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r gwaith hwnnw ar y gweill ar hyn o bryd.
Bydd llawer ohonom wedi siarad â dysgwyr ar ddiwrnodau canlyniadau TGAU a Safon Uwch. Fy mhrofiad i o hynny oedd bod pobl ifanc yn gwerthfawrogi'r cymorth adolygu a’r cymorth ar-lein yr oeddent yn gallu manteisio arno cyn arholiadau, a byddwn yn sicr eisiau parhau â'r cymorth hwnnw y flwyddyn nesaf hefyd. Yn amlwg, rydym yn gobeithio na fydd y flwyddyn o'n blaenau yn debyg i'r flwyddyn ddiwethaf, ond yn sicr bydd dysgwyr wedi cael y profiad a gawsant eleni wrth iddynt symud ymlaen at arholiadau'r flwyddyn nesaf, felly byddant angen y cymorth ychwanegol hwnnw gennym ni hefyd.