Effaith Chwyddiant ar Gyllidebau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 21 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:02, 21 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Mae gennyf un neu ddau o bwyntiau ar ddiwedd y ddwy sesiwn holi. Rwy'n disgwyl i'r Aelodau fod yma i ofyn eu cwestiynau llafar, os ydynt wedi cyflwyno cwestiynau, oni bai eu bod wedi cael eu tynnu'n ôl yn ffurfiol. Rwy'n disgwyl hefyd i'r Aelodau fod yma, ac aros yma, drwy gydol unrhyw sesiwn gwestiynau i'r Gweinidogion y maent am gael eu galw ynddi. Nid yw pob Aelod wedi bodloni'r disgwyliad hwnnw heddiw ychwaith, ac mae sawl un yn euog. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn y  Siambr i fy nghlywed yn dweud hyn, ond rwy'n gobeithio y bydd eu cyd-Aelodau ym mhob un o'r pleidiau gwleidyddol, bron, yn trosglwyddo'r neges. Ni fyddaf yr un mor drugarog yr wythnos nesaf.