2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 21 Medi 2022.
11. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith chwyddiant ar gyllidebau ysgolion ar gyfer 2022-23 ? OQ58383
Mae'r cynnydd mewn chwyddiant yn cael effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus a bydd yn effeithio ar gyllidebau ysgolion. Rydym yn gwybod bod cronfeydd wrth gefn ysgolion mewn sefyllfa well ar hyn o bryd, ac rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio gydag ysgolion i reoli eu cyllidebau yn sgil yr amgylchiadau presennol.
Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. A gaf fi gywiro rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud yn gynharach? Nid y pennaeth sy'n gyfrifol am gyllidebau ysgolion; maent yn gyfrifoldeb i'r corff llywodraethu yn unol â'r gyfraith. Mae hwnnw'n bwynt pwysig i'w gofio.
Ydy, efallai bod y swm cyfartalog o arian sydd gan gyrff llywodraethu ysgolion yn gymharol uchel, ond nid yw hynny'n golygu nad yw rhai ysgolion yn gweithredu gydag ond ychydig iawn o arian wrth gefn, ac mae rhai cronfeydd wrth gefn ysgolion yn fwy o ganlyniad i lwc dda a phethau sydd wedi digwydd na dim byd arall. Hynny yw, gosodwyd y cyllidebau hyn ar adeg wahanol iawn i'r un yr ydym ynddi yn awr. Mae gennym gostau cyflogau athrawon a chostau ynni—nid wyf yn gwybod beth fydd codiad cyflog yr athrawon, ond rwy'n dyfalu y bydd yn llawer uwch na'r hyn y gwnaeth llywodraethwyr ysgolion ei osod yn ôl ym mis Mawrth a mis Ebrill pan oedd pethau mewn sefyllfa hollol wahanol. Sut y mae'r Gweinidog yn meddwl y bydd ysgolion yn gallu talu'r costau ychwanegol hynny, a pha gymorth ychwanegol sy'n mynd i gael ei roi naill ai gan awdurdodau lleol neu gan Lywodraeth Cymru?
Ar fater cronfeydd wrth gefn yn benodol, rwy'n derbyn pwynt yr Aelod fod yna ddarlun amrywiol mewn gwahanol ysgolion, ac os nad oes gennych gronfeydd wrth gefn, ni fyddai hyn yn berthnasol i'r ysgol honno. Ond y darlun cyffredinol ar draws y system yng Nghymru yw bod cronfeydd wrth gefn ysgolion, yn ôl y data diwethaf sydd ar gael, sydd bellach bron yn flwyddyn oed, wedi cynyddu o £31 miliwn ym mis Mawrth 2020 i £180 miliwn ym mis Mawrth 2021. Felly, dyna'r darlun cyffredinol ar draws y system, a bydd awdurdodau lleol lle mae hynny'n wir yn gweithio gydag ysgolion i reoli'r cronfeydd wrth gefn hynny sydd wedi cynyddu mewn ffordd sy'n cefnogi anghenion yr ysgolion hynny.
Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, cynyddodd y setliad llywodraeth leol ar gyfer eleni dros 9 y cant. Bydd costau chwyddiant yn amlwg yn effeithio'n sylweddol iawn ar hynny. Yn amlwg, mae trafodaethau ar y gweill gydag awdurdodau lleol er mwyn deall ble mae'r pwysau, ond fel y bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn dweud mewn atebion blaenorol, mae cyfyngiad gwirioneddol ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud os na fydd Llywodraeth y DU yn gwneud iawn am y £600 miliwn yn llai o bŵer prynu sydd gan ein cyllideb ni heddiw nag a oedd ganddi ddiwedd y llynedd.
Diolch i'r Gweinidog.
Mae gennyf un neu ddau o bwyntiau ar ddiwedd y ddwy sesiwn holi. Rwy'n disgwyl i'r Aelodau fod yma i ofyn eu cwestiynau llafar, os ydynt wedi cyflwyno cwestiynau, oni bai eu bod wedi cael eu tynnu'n ôl yn ffurfiol. Rwy'n disgwyl hefyd i'r Aelodau fod yma, ac aros yma, drwy gydol unrhyw sesiwn gwestiynau i'r Gweinidogion y maent am gael eu galw ynddi. Nid yw pob Aelod wedi bodloni'r disgwyliad hwnnw heddiw ychwaith, ac mae sawl un yn euog. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn y Siambr i fy nghlywed yn dweud hyn, ond rwy'n gobeithio y bydd eu cyd-Aelodau ym mhob un o'r pleidiau gwleidyddol, bron, yn trosglwyddo'r neges. Ni fyddaf yr un mor drugarog yr wythnos nesaf.