– Senedd Cymru am 3:22 pm ar 21 Medi 2022.
Eitem 6 yw'r datganiadau 90-eiliad, ac yn gyntaf, Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i dynnu sylw at y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Andy Airey, Mike Palmer a Tim Owen—tri gŵr sy'n fwy adnabyddus fel 3 Dads Walking. Mae'r tri thad, pob un ohonynt wedi colli merch yn sgil hunanladdiad, ar hyn o bryd yn cyflawni eu hail her, sef taith 500 milltir i dynnu sylw at atal hunanladdiad ac i godi arian i'r elusen atal hunanladdiad, Papyrus. Dechreuodd 3 Dads Walking eu her yn St Andrews House yng Nghaeredin ddydd Sadwrn, 10 Medi, sef Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, ac maent yn cyrraedd y Senedd gyda'r nos ar 1 Hydref.
Yn anffodus, hunanladdiad yw'r lladdwr mwyaf ymhlith pobl o dan 35 oed yn y DU, a phob blwyddyn, yn anffodus mae dros 200 o blant ysgol yn cyflawni hunanladdiad. Mae 3 Dads Walking yn credu, drwy godi ymwybyddiaeth, y gallwn i gyd drafod y mater gyda'n gilydd ac atal teuluoedd eraill rhag cael eu difetha yn yr un modd. Mae'r tadau'n cerdded drwy bob un o'r gwledydd—Gogledd Iwerddon, Yr Alban, Cymru a Lloegr—er cof am eu merched, Beth, Sophie ac Emily, ac maent yn agos at fod wedi codi £1 filiwn ar gyfer Papyrus, sef elusen atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc. Roeddwn am godi hyn yn y Senedd y prynhawn yma gan ei fod yn fater pwysig i dynnu sylw ato, ac roeddwn am dynnu sylw at waith anhygoel y tri thad. Diolch.
Mae'n Ddiwrnod Clefyd Alzheimer y Byd heddiw. Mae Diwrnod Clefyd Alzheimer y Byd yn gyfle byd-eang i godi ymwybyddiaeth, addysgu, annog, cefnogi a goleuo mewn perthynas â phob math o ddementia. Mae dementia'n gyflwr cymhleth ac yn aml mae angen cymorth arbenigol ar bobl i'w helpu i fyw eu bywydau, eu cadw'n ddiogel a gwarchod eu llesiant. Yn ôl ymchwil ar gyfer Cymdeithas Alzheimer Cymru, roedd 45 y cant o bobl a oedd wedi cael diagnosis yng Nghymru yn teimlo nad oeddent wedi cael digon o gefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yng Nghymru, mae tua 50,000 o bobl yn byw gyda dementia, ac amcangyfrifir y bydd y nifer yn codi i tua 100,000 erbyn 2050.
Mae diagnosis yn gallu bod yn frawychus, ond mae'n well gwybod na pheidio â gwybod. Mae naw o bob 10 o bobl sydd â dementia wedi dweud eu bod wedi elwa o gael diagnosis, gan ganiatáu mwy o amser i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac agor y drws i driniaeth, gofal a chymorth. Felly, fy neges ar Ddiwrnod Clefyd Alzheimer y Byd i bawb yr effeithiwyd arnynt gan ddementia yn rhanbarth Dwyrain De Cymru a ledled Cymru yw nad ydych ar eich pen eich hun. Os ydych yn poeni am eich cof neu gof rhywun sy'n annwyl i chi, mae cefnogaeth ar gael i chi gan sefydliadau fel Cymdeithas Alzheimer Cymru, a all eich cynorthwyo i wneud y broses o gael diagnosis dementia mor glir â phosibl. Felly, peidiwch â dioddef mewn tawelwch. A hoffwn ddweud wrth bob un o'r Aelodau yma heddiw yn y Siambr a thu hwnt, efallai y bydd y rhai sydd ag Alzheimer's a dementia yn ein hanghofio ni ond gyda'n gilydd, rhaid i ni beidio â'u hanghofio hwy. Diolch.
Hoffwn dalu teyrnged i'r diweddar Tony Paris, a fu farw yr wythnos diwethaf. Roedd Tony yn un o Dri Caerdydd, a gafwyd yn euog ar gam o lofruddiaeth drasig a threisgar Lynette White, a ddigwyddodd ond ychydig funudau ar droed o'r Siambr hon. Rwy'n cofio fel bachgen ifanc y protestiadau yng Nghaerdydd am gyfiawnder i Dri Caerdydd. Rwyf hefyd yn cofio'r clecs parhaus amdanynt. Rwy'n cofio hefyd, fel bargyfreithiwr ifanc, y cyn-heddweision, mewn llys agored, yn dweud eu bod yn dal i fod yn euog o lofruddiaeth. Ac er iddynt gael ymddiheuriadau gan Heddlu De Cymru, methodd yr achos llygredigaeth yn erbyn y cyn-heddweision oherwydd bod tystiolaeth ar goll, tystiolaeth y daethpwyd o hyd iddi ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.
Ni ddaeth yr anghyfiawnder tuag at Tony Paris i ben pan gerddodd allan o'r carchar.
Mae gan Heddlu De Cymru hanes gwael o gamweinyddu cyfiawnder, yn enwedig mewn perthynas â phobl o leiafrifoedd ethnig. Mae'r mis hwn hefyd yn nodi 70 mlynedd ers crogi Mahmood Mattan ar gam yng ngharchar Caerdydd. Ni allwn anghofio'r achosion hyn o gamweinyddu cyfiawnder. Dyna pam rwy'n cefnogi Cassie Parris, merch Tony, sy'n parhau ei frwydr dros gyfiawnder ac sy'n dechrau ymgyrch i enwi stryd ar ôl Tony yn ei annwyl Butetown. Roedd Tony Paris yn dadlau dros gyfiawnder i bawb; bydd Cymru a'r byd yn lle tlotach hebddo. Diolch yn fawr.
Gyda thristwch ofnadwy y clywodd Cymru am farwolaeth Eddie Butler. Yn gawr addfwyn, roedd Eddie yn gapten ar Glwb Rygbi Pont-y-pŵl, bu'n gapten ar dîm Cymru a chwaraeodd i'r Barbariaid a'r Llewod, ond fel sylwebydd y daeth Eddie nid yn unig yn enw cyfarwydd ond yn bresenoldeb cyfarwydd ar ddyddiau gemau. Yn ein buddugoliaethau a'n siomedigaethau, roedd llais melodig Eddie yn ein tywys ni, gan groniclo'r eiliadau hynny pan fuom fel cenedl yn dal ein gwynt ar y cyd. Roedd Eddie bob amser yn dod o hyd i'r geiriau. Fel y dywedodd Gary Lineker, roedd Eddie yn fardd Cymreig go iawn a ddaeth â gemau'n fyw gyda brwdfrydedd ac angerdd.
Roedd yn ymgyrchydd selog a roddodd ei gefnogaeth a'i allu i sefydliadau yn amrywio o DEC Cymru i ganser y prostad a Felindre. Ond roedd stori Cymru ei hun o ddiddordeb mawr iddo. Roedd hi'n fraint enfawr cael rhannu llwyfan gydag Eddie yn rali annibyniaeth Merthyr yn 2019. Y diwrnod hwnnw, roedd Merthyr yn llawn brwdfrydedd a chyffro, ac aeth Eddie ati i saernïo'r geiriau a sianelodd yr emosiynau hynny a rhoi llais i'n gobeithion a'n breuddwydion. Bydd colled ar ôl ei lais, bydd colled ar ei ôl ef. Ni welir ei debyg eto. Nos da, Eddie, ac fe'th welwn ar y chwiban olaf.
Ac yn olaf, Elin Jones.
Y cyflwynydd sioe siarad fenywaidd gyntaf yn hanes teledu Prydain oedd dynes ganol oed o Lansawel, Mavis Nicholson, merch i yrrwr craen yng ngwaith dur Port Talbot. Fe'i ganed yn y 1930au, a'i magu mewn tŷ teras bach, ac aeth yn ei blaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe dan Kingsley Amis. Symudodd i Lundain, lle daeth i sylw Thames Television yn ei phedwardegau cynnar, ac felly, ym 1971, dechreuodd ei gyrfa yn y byd teledu. Bu'n gyd-gyflwynydd rhaglen brynhawn wythnosol o'r enw Tea Break gyda Judith Chalmers, Mary Parkinson, a Mary Berry.
Ym 1984, ymunodd â'r Channel 4 newydd, gan gyflwyno ei rhaglen gyfweld yn ystod y dydd, Mavis on 4. Roedd hi'n meistroli'r cyfweliad hir. Dywedodd yr actores Maureen Lipman fod moment Frost-Nixon ym mhob un o'i chyfweliadau. Fe gyfwelodd â chymaint o'r enwau mawr—Elizabeth Taylor, Rudolf Nureyev, Kenneth Williams. Ond roedd hi yr un mor chwilfrydig ynglŷn â bywydau'r bobl a oedd yn eistedd wrth ei hymyl ar y trên ag a oedd hi am fywydau Lauren Bacalls a David Bowies y byd hwn.
Bu'n cyflwyno ar y radio hefyd. Bu'n cyflwyno Start the Week a Woman's Hour, a llenwi dros Jimmy Young ar Radio 2.
Enillodd Wobr Arbennig Bafta Cymru am Gyfraniad Eithriadol i Deledu yn 2018. Ac am gyfraniad oedd hwnnw. Tybed a yw Loose Women heddiw neu Emma Barnett yn gwybod pwy wnaeth chwalu'r nenfwd gwydr ar eu cyfer. Mavis Nicholson oedd honno, gyda goslef Llansawel ar ei llais.
Symudodd Mavis yn ôl i Gymru dros 20 mlynedd yn ôl a bu farw ar 8 Medi yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn 91 oed.
Diolch, bawb.