Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 21 Medi 2022.
Diolch yn fawr. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon ar dlodi tanwydd a rhaglen Cartrefi Clyd yn ddefnyddiol i bob Aelod, gan fod hyn yn rhywbeth y gwn fod ein holl etholwyr yn hynod bryderus yn ei gylch. Dechreuodd y pwyllgor yr ymchwiliad hwn yn y gwanwyn eleni, pan oedd prisiau ynni yn draean yr hyn ydynt heddiw. Ac mae Cymru’n arbennig o agored i’r cynnydd digynsail hwn. Mae rhywfaint o stoc dai Cymru ymhlith yr hynaf yn Ewrop. Mae cartrefi heb eu hinswleiddio'n ddigonol, yn y sector preifat yn bennaf, ac sydd naill ai'n eiddo i berchen-feddianwyr neu'n cael eu rhentu'n breifat, yn costio swm anghymesur i'w gwresogi ac yn dibynnu ar ffynonellau ynni sy'n allyrru carbon. Y DU sydd ar waelod y tabl yn Ewrop ar inswleiddio cartrefi. Mae tai yn y DU, ar gyfartaledd, yn colli 3 gradd Celsius o wres dan do ar ôl pum awr, deirgwaith yn gyflymach nag yn yr Almaen. Ac mae gan hyd yn oed gwledydd de Ewrop fel yr Eidal a Sbaen, nad ydynt yn cael ein gaeafau oer a hirfaith ni, gartrefi sydd, ar gyfartaledd, wedi'u hinswleiddio ddwywaith cystal â chartrefi'r DU. Mae hyn yn wirioneddol syfrdanol.
Dros 20 mlynedd yn ôl, bwriad y Ddeddf cartrefi cynnes oedd gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru a dileu tlodi tanwydd. Mae cyfuniad o lunio polisïau diffygiol, rheoliadau annigonol ac aflonyddwch ym marchnadoedd ynni’r byd yn golygu nid yn unig ein bod ymhell o gyflawni’r nod hwnnw, ond bod y sefyllfa bellach yn enbyd. O ganlyniad i godi'r cap ar brisiau ynni ym mis Ebrill, mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif bod dros 600,000 o aelwydydd, neu 45 y cant o’r holl aelwydydd, yn byw neu y byddant yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru cyn gynted ag y bydd y gaeaf yn dechrau. Yn ôl pob tebyg—mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers hynny—dyna, bellach, yw tynged y rhan fwyaf o aelwydydd Cymru. Y rhai mwyaf agored i niwed yw'r rhai sy'n wynebu'r dewis enbyd rhwng bwyta neu wresogi. Fel y nodir yn yr adroddiad hwn, mae angen gweithredu ar frys gan y Llywodraeth ar raddfa ddigynsail.
Hoffwn ddiolch i’r holl bobl a fu’n rhan o'r gwaith o lunio adroddiad yr ymchwiliad, yr holl randdeiliaid a’r arbenigwyr polisi a roddodd dystiolaeth ffurfiol, yr aelodau o’r cyhoedd a siaradodd â ni am eu profiadau personol o’r materion yr ydym yn ymdrin â hwy yn yr adroddiad, clercod y pwyllgor a’r staff ymchwil a gefnogodd ein hymchwiliad, yn ogystal â’r archwilydd cyffredinol a’i dîm yn Archwilio Cymru am eu harchwiliad manwl o raglen Cartrefi Clyd, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd.
Roedd nwy yn arfer cael ei ystyried yn ffordd effeithiol a chymharol rad o wresogi ein cartrefi. Roedd hynny tan i nwy ddechrau cael ei ddefnyddio i bweru gorsafoedd pŵer yn lle glo, ac mae hyn, ynghyd â sgil-effeithiau'r rhyfel yn Wcráin, wedi cynyddu prisiau’r farchnad yn sylweddol. Mae'r cythrwfl wedi creu argyfwng digynsail i aelwydydd y gaeaf hwn. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR) yn dweud y bydd y codiadau hyn yn taro'r cartrefi tlotaf yng Nghymru yn galetach nag unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU. Ac mae rhai aelwydydd yn gwario dros chwarter—26 y cant—o'u hincwm ar ynni a bwyd, sydd ill dau wedi cael eu heffeithio gan chwyddiant enfawr. I'r bobl hyn, fel y mae NIESR yn proffwydo, ni fydd twf cyflogau na budd-daliadau lles yn gwneud iawn am y cynnydd cyflym hwn mewn chwyddiant.