Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 21 Medi 2022.
Rydym yn falch fel pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein tri argymhelliad cyntaf, sy’n ymwneud â’r camau y mae angen eu cymryd ar unwaith i adolygu effeithiolrwydd cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl yn sgil y toriad TAW ar gyfer deunyddiau arbed ynni ac inswleiddio. A yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa yn awr i rannu canlyniad ei hadolygiad o gynllun cymorth tanwydd y gaeaf? Mae angen i bob un ohonom wybod pa awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill sydd â’r strategaeth fwyaf effeithiol ar gyfer cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun wrth inni wynebu problemau mwy enbyd byth y gaeaf hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £4 miliwn ychwanegol yn y Sefydliad Banc Tanwydd, sy’n rhoi taliadau ychwanegol i bobl â mesuryddion talu ymlaen llaw, a chronfa wres ar gyfer prynu olew gwresogi ymlaen llaw ar gyfer aelwydydd incwm isel nad ydynt ar y grid nwy. Mae hynny i’w groesawu’n fawr, a byddai’n dda gwybod a yw’r Llywodraeth yn credu bod hynny’n mynd i fod yn ddigonol i ddiwallu'r galw y gaeaf hwn.
Mae nifer fawr o sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eisoes wedi cynnig sefydlu hybiau cynnes y gaeaf hwn fel nad yw pobl yn crynu yn eu cartrefi. Pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhagweld, mewn partneriaeth â’r panel cynghori ar dlodi tanwydd ac eraill, i sicrhau y bydd y mentrau rhagorol hyn yn rheoli'r adnoddau uniongyrchol sydd eu hangen yn y cymunedau tlotaf un i atal pobl rhag rhewi i farwolaeth yn llythrennol?
Er bod rhaglen Cartrefi Clyd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i oddeutu 67,000 o aelwydydd a gafodd gymorth drwyddi, roedd ei diffygion yn amrywio o faint a graddfa’r rhaglen i feini prawf cymhwysedd cyfyngol a chap grant a oedd wedi’i gynllunio’n wael, ac a oedd yn rhwystro dulliau tŷ cyfan mwy cyfannol. Daeth Nyth ac Arbed, yn eu hanfod, yn gynlluniau amnewid boeleri nwy, gan flaenoriaethu systemau gwresogi sy'n allyrru carbon dros ymyriadau eraill. Disgrifiwyd y pwyslais a roddir ar osod boeleri newydd heb waith cyflenwol i insiwleiddio cartrefi gan un o’n rhanddeiliaid fel
'prynu tebot llawn craciau.'
Mae’r ffigurau ar gyfer 2020-21 yn dangos bod bron bob un o’r mesurau a roddwyd ar waith gan Nyth y flwyddyn honno yn ymwneud â systemau gwres canolog yn hytrach na chynlluniau inswleiddio, sy’n golygu eu bod yn parhau i osod systemau a oedd yn allyrru carbon. Mae ein hadroddiad, ochr yn ochr ag adroddiad yr archwilydd cyffredinol, yn nodi mewn du a gwyn y gwersi sy'n rhaid eu dysgu o ddiffygion rhaglen bresennol Cartrefi Clyd. Mae argymhelliad 6 yn ein hadroddiad, yn benodol, yn crynhoi’r angen i’r rhaglen nesaf fod yn fwy o ran maint, yn ddoethach o ran pwy y mae’n ei dargedu ac yn wyrddach yn ei hymyriadau.
Gan fod y Senedd bellach wedi ailddechrau ei busnes arferol ar gyfer tymor yr hydref eleni, edrychwn ymlaen at lansiad rhaglen nesaf Cartrefi Clyd. A wnaiff y Gweinidog nodi, naill ai yn awr neu’n ysgrifenedig i’r pwyllgor, y ffyrdd yr aethpwyd i’r afael ai peidio â’n pwyntiau penodol ynglŷn â’r rhaglenni olynol? Yn benodol, rydych yn dweud
'bydd y fersiwn nesaf yn ymateb i amodau'r farchnad a'r gadwyn gyflenwi, gan gydbwyso'r galw â'r capasiti sydd ar gael.'
Geiriau doeth, o ystyried lefel y tarfu yng Nghymru a’r byd. Yn y tymor hir, mae trechu tlodi tanwydd a diogelu ein ffynonellau ynni yn dibynnu ar ddatgarboneiddio pob cartref yn effeithiol, ac mae hynny’n cynnwys gwell effeithlonrwydd ynni.
Mae Cymru wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd o ran cynhyrchu dros hanner yr ynni y mae’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd o adnoddau adnewyddadwy. Yr her i Lywodraeth Cymru yw sut y gall hynny drosi’n drawsnewidiad teg, cyfiawn a gwyrdd yng nghyd-destun y ffordd y mae marchnad ynni’r DU wedi’i rigio ar hyn o bryd i gost ddrudfawr nwy. Mae newid i ynni adnewyddadwy yn allweddol, ac mae'n fater brys.
Rydych wedi derbyn deunawfed argymhelliad y pwyllgor ar strategaeth glir, hirdymor ar gyfer datgarboneiddio gyda’r nod o roi’r hyder sydd ei angen ar ddiwydiant i fuddsoddi mewn sgiliau, technoleg a phobl. Gwyddom fod angen y cynllun sgiliau sero net yn awr, felly gobeithio na fydd y dyddiad cyhoeddi a ragwelir ym mis Rhagfyr yn llithro.
Bydd angen i'r newid i sero net edrych ar y stoc dai o bob oed a math o ddeiliadaeth yng Nghymru. Mae’r nifer fwyaf o aelwydydd tlawd o ran tanwydd yn y sector rhentu preifat ac mewn ardaloedd gwledig, ac mae angen camau penodol i fynd i’r afael â’r rhain. Mae'r heriau i denantiaid yn y sector rhentu preifat yn arbennig o ddifrifol. Ychydig iawn o denantiaid sy’n rhentu’n breifat a elwodd o’r rhaglen bresennol, a chanfu ymchwil a amlygwyd yn ein hadroddiad nad oedd fawr ddim cydberthynas rhwng effeithlonrwydd ynni eiddo a chyfraddau rhent y farchnad. Felly mae angen i Lywodraethau Cymru a’r DU fynd i’r afael â hyn drwy gyfuniad o gymhellion i landlordiaid, safonau mwy trwyadl ac ymgysylltu cyffredinol.
Felly, yn benodol mewn perthynas ag argymhelliad 22, a wnaiff y Gweinidog nodi a yw’n bwriadu annog Llywodraeth y DU i weithredu ar gynigion i gynyddu’r safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol i dystysgrif perfformiad ynni C ar gyfer pob eiddo rhent erbyn 2028? Ac os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i weithredu, a wnaiff Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â gweithredu’r safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni uwch hyn yng Nghymru yn unig? Edrychaf ymlaen at sylwadau’r Aelodau ac ymateb y Gweinidog.