Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 21 Medi 2022.
—a bod ymdeimlad cryfach o lawer o ymrwymiad ymhlith cymunedau lleol. Mae hyn yn bwysig. Gwlad fechan yw Cymru; mae gennym gapasiti sylweddol yn ein rhwydwaith o awdurdodau lleol, darparwyr tai, grwpiau cymunedol a thrydydd sector sydd wedi cyrraedd gallu i ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau i helpu i sicrhau'r ymrwymiad hwnnw. Mae yna reswm pam fod hyn yn hollbwysig.
Hoffwn glywed gan y Gweinidog ynghylch hynny. Diolch.