Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 21 Medi 2022.
Mae'r ymchwiliad a'r adroddiad yma i'r rhaglen Cartrefi Clyd a thlodi tanwydd efallai'n un o'r pwysicaf i fi fod yn rhan ohono fel aelod o bwyllgor yn y Senedd hyd yma, achos bob gaeaf mae cannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd i fforddio gwresogi eu cartrefi, gan fyw mewn amodau llaith, oer sy'n beryglus i'w hiechyd. Dyna oedd y sefyllfa gaeaf y llynedd, a'r gaeaf cyn hynny, a'r gaeaf cyn hynny, cyn i'r rhyfel yn Wcráin ddechrau, cyn anterth yr argyfwng ynni presennol. Roedd yna sefyllfa argyfyngus yn barod yn bodoli a oedd yn gwneud y gwaith craffu a'r dadansoddi manwl hwn gan y pwyllgor, er mwyn sicrhau bod fersiwn nesaf y rhaglen yn elwa o ddysgu gwersi allweddol ac yn gwneud yr hyn mae angen iddi ei wneud, yn waith brys ac yn waith hollbwysig, yn hollbwysig o ran ein hangen fel cenedl i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'n hymdrechion hanfodol ni i dorri allyriadau carbon, ac o ran ein dyletswydd i ddileu lefelau cwbl annerbyniol o dlodi tanwydd, sydd bellach, fel ddwedodd y Cadeirydd, wedi cyrraedd 45 y cant, a siŵr o fod yn uwch.
Ac os nad oedd hynny'n ddigon o gymhelliad i'n sbarduno ni, dechreuon ni ymchwilio hefyd yn sgil methiannau dybryd a drudfawr y rhaglen Cartrefi Clyd a nodwyd gan adroddiad Archwilio Cymru. Roedd y diffygion a nodwyd yn rhaid sylfaenol a syfrdanol, o ystyried pwysigrwydd y rhaglen a maint y gwariant cyhoeddus arni, ac mae argymhelliad y pwyllgor y dylai fersiwn newydd y rhaglen gynnwys fframwaith fonitro, gwerthuso a rheoli cadarn yn gwbl greiddiol. Y peth canolog i nodi, efallai, yw bod y cyllid ar gyfer y rhaglen wedi bod yn gwbl annigonol. Roedd tystiolaeth comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn drawiadol o ran hynny, ac yn tanlinellu diffyg amlwg y rhaglen hyd yma o ran ei huchelgais a'i heffaith a'r angen brys am weithredu ar hyn.
Mae pris rhagor o oedi cyn buddsoddi a gweithredu ar fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn uwch o lawer nawr yn nhermau tlodi tanwydd, wrth gwrs, yn sgil yr argyfwng ynni presennol. Mae Plaid Cymru yn cefnogi argymhellion y pwyllgor ac yn falch o weld ymateb y Llywodraeth, sy'n derbyn pob argymhelliad. Ond mae nifer o'r ymatebion i'r argymhellion yn awgrymu y byddai diweddariad yn cael ei gynnig i'r Senedd ynglŷn â fersiwn nesaf y rhaglen erbyn dechrau y tymor newydd yma wedi'r toriad, ac yng ngolau'r argyfwng sy'n ein taro, sy'n bygwth iechyd ac yn wir bywydau teuluoedd, mae angen amserlen glir ac ymrwymiad polisi pendant ar frys ar gyfer rhaglen uchelgeisiol a chynhwysfawr i daclo'r argyfyngau costau byw a hinsawdd, sy'n cyflawni'r nod yn effeithiol, yn unol â chanfyddiadau'r adroddiad. Pryd gawn ni glywed hynny, Weinidog? Hoffwn gael llinell amser pendant yn eich ymateb i'r ddadl.
A tra ein bod ni'n aros am weithrediad y fersiwn newydd o'r rhaglen, mae Plaid Cymru yn cefnogi barn NEA Cymru y dylid gwneud newidiadau a buddsoddiadau newydd nawr oddi mewn i'r rhaglen Nest bresennol i'w gwneud yn fwy effeithiol ac er mwyn dyfnhau ei heffaith. Dylai'r Llywodraeth wneud y mwyaf o'r cynllun presennol drwy roi hwb ariannol i'r rhaglen a'i haddasu i gynnig mesurau ffabrig ac insiwleiddio ochr yn ochr â systemau gwresogi. Y dull ffabrig a gwaethaf yn gyntaf o ran ôl-osod, gan dargedu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon o ran tanwydd, sydd angen bod wrth wraidd fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. Bydd hyn yn lleihau'r galw am ynni ac yn cyflawni’r nod ddwbl yna o leihau tlodi tanwydd wrth leihau defnydd ynni ac felly allyriadau carbon.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Dorïaidd San Steffan i ddefnyddio treth ar elw grotesg o enfawr y cwmnïau olew a nwy i helpu ariannu rhaglen i wella stoc tai Cymru, sydd ymhlith y lleiaf ynni effeithiol yn y Deyrnas Gyfunol.
Un peth sy'n amlwg, mae angen gweithredu radical ar raddfa nas gwelwyd hyd yma. Dŷn ni'n hoffi defnyddio'r term yna, 'radical', efallai'n rhy aml. Mae'r rhaglen yma yn gofyn am wir ystyr y gair 'radical'. Mae'r adroddiad hwn yn cynnig llwybr sy'n glir o ddryswch a diffygion y rhaglen flaenorol. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn y map sydd wedi cael ei gynnig. Yr hyn sydd angen i ni yma a miloedd o drigolion Cymru ei glywed yw pryd fydd y cam nesaf ar y daith yn cael ei gymryd.