Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 27 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:30, 27 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Er bod plismona yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl ar hyn o bryd, rydym ni wedi ymrwymo i barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan weithio'n agos gyda'r Swyddfa Gartref ar hyn. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ariannu 600 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i helpu i gadw pobl a chymunedau yn ddiogel ledled Cymru.