1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Medi 2022.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? OQ58463
Diolch. Er bod plismona yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl ar hyn o bryd, rydym ni wedi ymrwymo i barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan weithio'n agos gyda'r Swyddfa Gartref ar hyn. Ar hyn o bryd, rydym ni'n ariannu 600 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i helpu i gadw pobl a chymunedau yn ddiogel ledled Cymru.
Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Yn anffodus, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bla ar lawer o gymunedau ledled Cymru ac ar draws gweddill y DU. Gall amrywio o broblemau ar raddfa fach, sydd wir yn gallu blino pobl, i ddigwyddiadau dyddiol sy'n gallu gwneud bywydau pobl yn ddioddefaint llwyr. Mae'n ddealladwy bod trigolion yn rhwystredig ac yn poeni pan fydd y digwyddiadau hyn yn aml yn arwain at droseddu amlwg, fel y defnydd o feiciau oddi ar y ffordd neu feiciau trydan naill ai i ddanfon neu ddelio mewn cyffuriau. Gall hyn ddigwydd ar unrhyw adeg o'r dydd ac yn gwbl agored i bobl o bob oed, gan gynnwys plant.
Roeddwn i'n hynod falch bod cynhadledd Llafur y DU a Llafur y DU wedi neilltuo eu diwrnod cyntaf yn y gynhadledd honno i gyfiawnder, gan ymrwymo i ailgyflwyno plismona cymdogaeth a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu, gwrthgyferbyniad llwyr â Llywodraeth newydd Truss, y mae'n ymddangos mai ei blaenoriaeth yw gwneud y cyfoethog yn fwy cyfoethog a thancio economi'r DU. Gan ddeall nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ysgogiadau ar waith i fynd i'r afael â hyn, a than y byddwn ni'n gweld Llywodraeth Lafur wedi'i sefydlu ar lefel y DU, beth allwn ni ei wneud yng Nghymru i gefnogi'r heddlu a chymunedau i gael gwared ar ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y gall pobl deimlo'n ddiogel yn y cymunedau y maen nhw'n eu galw'n gartref?
Rwy'n credu bod Jayne Bryant yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac rwy'n gwybod, fel AS, mae ein bagiau post yn aml yn cynnwys llawer o etholwyr sy'n poeni'n fawr am yr hyn efallai y byddech chi'n ei alw'n ymddygiad gwrthgymdeithasol 'lefel isel'. Mae gan bawb yr hawl i heddwch a thawelwch yn eu cartrefi eu hunain, ac rydych chi newydd godi mater pwysig ynghylch cymunedau hefyd. Ac rwy'n credu, wrth gwrs, bod ein cymunedau ni yn lleoedd gwych i fyw ar y cyfan, onid ydyn nhw, ond gall ymddygiad gwrthgymdeithasol wneud bywydau dioddefwyr yn ddiflastod.
Soniais fod gorfodaeth a phlismona yn faterion sydd wedi'u cadw yn ôl, ac, yn amlwg, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda'r Swyddfa Gartref. Ond wrth gwrs, dim ond un rhan o'r broblem yw'r heddlu, ac mae llawer o'r ysgogiadau sy'n effeithio ar ddiogelwch cymunedol wedi'u datganoli, ac mae'r Gweinidog a'r Llywodraeth yn benderfynol iawn o wneud popeth o fewn ein gallu i wneud i bobl Cymru deimlo'n ddiogel.
Soniais yn fy ateb agoriadol ein bod ni wedi cynnal y cyllid ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, ac rydym ni hefyd wedi cynyddu eu nifer o dros 100 yn ystod y tymor hwn o'r Llywodraeth. Ond rwy'n credu bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol hefyd yn mabwysiadu agwedd bartneriaeth, ac mae'n bwysig iawn bod y bartneriaeth effeithiol honno yn ein helpu ni i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Diolch i'r Aelod dros Orllewin Casnewydd am godi'r mater. Fel y dywedwyd, gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith negyddol, ac mae yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd ein cymunedau. Ar y gorau mae'n niwsans, ac ar ei waethaf mae'n fygythiol ac yn drafferthus i bobl ac eiddo. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn broblem arbennig yn ardal cyngor Sir Fynwy yn ddiweddar, ac mae canol tref Cil-y-coed, er nad yw yn fy etholaeth i, mae'n ffinio fy etholaeth i, wedi bod yn destun dau orchymyn gwasgaru dros y pythefnos diwethaf. Mae'n effeithio ar fy nghymuned fel y mae ar un John Griffiths.
Un ffordd o leihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yw sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cynnwys yn llawn yn eu hardaloedd lleol ac yn credu bod eu llais yn cael ei glywed, tra ei bod hi hefyd yn bwysig bod pobl yn hyderus y bydd yr heddlu yn gweithredu ar eu cwynion. Gweinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau a sefydliadau lleol i hyrwyddo cynhwysiant cymunedol, fel prosiectau cymunedol sy'n dod â phobl at ei gilydd yn ogystal â gwella cyfleusterau i gynyddu cyfleoedd i bobl leol? A sut ydych chi'n gweithio gyda'r heddlu i helpu i'w gwneud hi'n haws i bobl roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol i helpu i atal digwyddiadau rhag gwaethygu ymhellach? Diolch.
Diolch. Fe wnaethoch chi sôn am gael gorchmynion gwasgaru—rwy'n credu eich bod chi wedi dweud ychydig y tu allan i'ch etholaeth chi. Yn amlwg, mater i weithrediadau'r heddlu yw hynny, ond mae'n sicr yn tanlinellu pwysigrwydd y dull ataliol yr ydym ni fel Llywodraeth yn ei fabwysiadu i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Soniais fod gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn sicr, y dull partneriaeth hwnnw ym mhopeth y mae'n ei wneud o amgylch yr agenda hon, ac mae hynny'n cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol ac unrhyw bartner arall a all ein helpu ni yn y frwydr hon yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Diolch yn fawr, Trefnydd, am eich atebion. Y broblem gyda hyn yw nad oes gyda ni'r offer fan hyn yn y Senedd i ddelio â fe. Dwi'n mawr obeithio y bydd y Prif Weinidog, pan fydd, o'r diwedd, Liz Truss yn rhoi galwad ffôn iddo fe, yn dweud yn glir wrthi hi, ac wrth Keir Starmer, fod angen datganoli cyfiawnder fan hyn i fynd i wraidd y problemau yma. Dwi hefyd yn gobeithio y cymeriff e'r cyfle i ddweud wrth y Prif Weinidog fod y Public Order Bill, sy'n gwahardd protestio cyfreithlon, yn hollol warthus. Dwi'n siwr, Trefnydd, y byddwch chi'n cytuno â fi ei bod hi'n bwysig i bob yr un ohonom ni fel gwleidyddion i wrando ar bam mae pobl yn protestio—beth yw gwraidd a rheswm y brotest—yn hytrach na thrio stopio protestio rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Yn sicr. Mae gan bawb yr hawl i brotestio'n heddychlon, ac rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud ynghylch datganoli cyfiawnder. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd. Mae'r Bil Trefn Gyhoeddus, rwy'n credu, wedi cael ei ohirio bellach. Yn sicr, ni fyddwn ni'n cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Senedd ar hyn o bryd.
A gaf innau hefyd ddiolch i Jayne Bryant am godi'r mater pwysig hwn heddiw? Trefnydd, roeddwn i yng Nghoedpoeth, cymuned yr ydych chi'n gyfarwydd â hi, yn ddiweddar iawn, ar batrôl am fore llawn gyda'r heddlu lleol yno. Cefais fy syfrdanu gan faint maen nhw'n ei wybod am y cymunedau yr ydym ni'n eu gwasanaethu a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. A wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i bob un o'n heddluoedd, ac yn arbennig y swyddogion cymorth cymunedol hynny sy'n gwneud cymaint i gyfyngu ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Cymru?
Diolch. Ie, byddwn i'n sicr yn ymuno â chi i ganmol y gwaith maen nhw'n ei wneud. Maen nhw'n amlwg iawn ar strydoedd ein pentrefi, ac, yn amlwg, rwy'n adnabod Coedpoeth yn dda iawn. Rwy'n credu mai'r rheswm i ni gyflwyno'r cyllid ar gyfer 100 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu arall, gan lenwi bylchau'r Swyddfa Gartref, gadewch i ni ddweud, oedd o ran gwneud yn siŵr bod y cymorth hwnnw ar ein strydoedd, gan wneud i bobl deimlo'n fwy diogel.