Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 27 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:46, 27 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n amlwg yn gyfrifol am dai, wrthi'n ystyried uchafswm y cynnydd i rent cymdeithasol, er enghraifft, yng Nghymru, a bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud maes o law. Nid wyf i yma i lunio polisi tai ar amcan, ond rwy'n amlwg yn ymwybodol bod y Gweinidog yn edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud. Ond mae'n bwysig nad ydych chi wedyn yn cael landlordiaid yn cymryd tai i'w rhentu oddi ar y farchnad yn sydyn, a chael y canlyniadau anfwriadol hynny.