1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 27 Medi 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, yr wythnos ddiwethaf cawsom ni'r amseroedd aros wedi'u cyhoeddi ar gyfer y GIG yng Nghymru. Yn y gogledd, a chi yw'r Gweinidog sy'n uniongyrchol gyfrifol amdano, mae 15,000 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth. A wnewch chi ymddiheuro i'r 15,000 o bobl hynny sy'n aros am amseroedd mor hir ar GIG Cymru?
Wel, wrth gwrs, dydyn ni ddim eisiau i neb fod yn aros am gyfnodau maith o amser. Os ydych chi mewn poen a bod angen llawdriniaeth arnoch chi, yna yn amlwg rydym ni eisiau cael y llawdriniaeth honno a'r triniaethau hynny cyn gynted â phosib. Byddwch yn ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi cyllid sylweddol i mewn i'r GIG, ac mae'n cynnwys bwrdd iechyd y gogledd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i geisio dod â'r niferoedd hynny i lawr a rhoi trefn ar yr ôl-groniad hefyd. Ond, yn anffodus, bydd llawer o'r cyllid hwnnw yn cael ei wario ar yr argyfwng ynni nawr.
Wel, Gweinidog, mae'n ymddangos mai 'sori' yw'r gair anoddaf pan ddaw i siarad â'r 15,000 o bobl sy'n aros dwy flynedd neu fwy yn y GIG yn y gogledd. Gadewch i ni gynnig ail gyfle i chi ddweud sori: mae 25 y cant o'r boblogaeth yn y gogledd ar restr aros y GIG—25 y cant. A wnewch chi ddweud 'sori' wrth y 25 y cant hwnnw?
Rwy'n mynd yn ôl—nid yw'n fater o ddweud 'sori', ydy e? Mae'n fater o wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu helpu'r bwrdd iechyd i ddarparu'r triniaethau a'r llawdriniaethau sydd eu hangen cyn gynted â phosib. Rydych chi'n gwneud iddi swnio fel pe bai dim ond yng Nghymru y mae gennym ni restrau aros; wrth gwrs mae gennym ni restrau aros ledled y DU. Rwy'n sylweddoli ein bod ni'n edrych ar y gogledd nawr, ac fel y gwyddoch chi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael problemau. Rydym ni wedi cyfrannu adnoddau sylweddol, dynol ac ariannol, i'w helpu gydag ymyrraeth wedi'i thargedu yn enwedig. Rydym ni'n gwbl benderfynol o fynd i'r afael â'r ôl-groniad. Soniais am y cyllid y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei gyfrannu. Rydym ni'n ymwybodol pa mor anodd yw hi i bobl sy'n aros amser maith am driniaeth. Rydym ni'n parhau i wneud cynnydd i leihau'r arosiadau hiraf, ac fe wnaeth nifer y llwybrau cleifion sy'n aros dros ddwy flynedd ostwng—rwy'n credu mai dyna'r pedwerydd mis yn olynol maen nhw wedi gostwng. Felly, rydym ni'n gweld rhywfaint o gynnydd. Mae bellach 14 y cant yn is na'r uchafbwynt a gawsom ym mis Mawrth eleni.
Gweinidog, ar ddau achlysur cynigiais i'r cyfle i chi ymddiheuro i ddinasyddion y gogledd, y mae gennych chi gyfrifoldeb gweinidogol uniongyrchol amdano, ac, yn wir, rydych chi'n Aelod etholaeth dros dref Wrecsam. Mae'n ffaith bod rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, nid Lloegr yn unig ond yr Alban, fwy neu lai wedi dileu'r arosiadau dwy flynedd. Maen nhw fwy neu lai wedi dileu'r arosiadau dwy flynedd. Mewn datganiad i'r wasg yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Gweinidog iechyd ei bod hi'n rhoi pwysau ar y byrddau iechyd i geisio cael rheolaeth ar yr amseroedd aros. Ac eto gwelsom ni'r amseroedd aros hynny bron â chyrraedd 750,000 o achosion o ofal y mae pobl Cymru yn disgwyl amdanyn nhw. Felly, rydych chi wedi dweud chi'n ceisio. Pa ymdrechion diriaethol ydych chi'n eu gwneud i sicrhau ein bod ni yn yr un sefyllfa â rhannau eraill y Deyrnas Unedig, a fydd yn arwain at ddileu'r arhosiad o ddwy flynedd, cynnydd o ran yr arhosiad o 12 mis, ac, yn anad dim, y gostyngiad i gyfanswm y cleifion sy'n aros yn y GIG yng Nghymru?
Yn gyntaf oll, rwy'n cynrychioli dinas Wrecsam, nid tref Wrecsam.
Nid yw'n fater o—. Wrth gwrs mae'n ddrwg gennym ni bod yn rhaid i bobl aros am gyfnod maith. Rydych chi'n peintio'r darlun hwn o weddill y DU sydd ddim yn wir. Soniais am y cyllid sylweddol a roddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, soniais am sut rydym ni wedi gweld cwymp eto am y pedwerydd mis yn olynol, ac rydych chi'n wfftio hynny i gyd. Yr hyn y dylem ni fod yn ei wneud yw canmol y GIG am y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud. Rydych chi'n ymwybodol o'r cyfnod anodd y mae'r GIG wedi bod ynddo. Mae ein staff wedi gweithio'n ddi-baid yn ystod pandemig COVID-19. Rydyn ni bellach yn gofyn iddyn nhw wneud mwy eto i geisio edrych ar yr ôl-groniad. Fel yr wyf i wedi sôn, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynorthwyo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn benodol gydag ymyrraeth wedi'i thargedu.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae rhent yn codi yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw le arall yn y DU, heblaw am Lundain. Mae rhent yng Nghaerdydd yn unig wedi cynyddu 36 y cant mewn dwy flynedd yn unig. Mae chwarter y tenantiaid preifat yng Nghymru yn poeni y byddan nhw'n colli eu cartrefi yn ystod y tri mis nesaf. Mae Shelter Cymru, wedi'u hatseinio yn Lloegr gan gomisiwn Kerslake ar ddigartrefedd, yn galw am ailgyflwyno gwaharddiad dros dro ar droi pobl allan—troi pobl allan am ôl-ddyledion, yn ogystal â throi allan heb fai—a welsom ni yn ystod y pandemig i sicrhau nad oes neb yn cael ei wneud yn ddigartref o ganlyniad i'r argyfwng costau byw. Mae'r Alban yn ei wneud ac mae eu cymhwysedd yn adlewyrchu ein cymhwysedd ni. Fel Llywodraeth sy'n dweud ei bod hi wedi ymrwymo i roi terfyn ar ddigartrefedd, a wnewch chi hefyd wahardd troi pobl allan y gaeaf hwn yng Nghymru?
Fe wnaethoch chi grybwyll y polisi y mae Llywodraeth yr Alban yn ei gyflwyno bellach. Rwy'n credu fy mod i wedi ateb yr wythnos diwethaf ar ran y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddweud y bydd hi, yn amlwg, yn edrych yn ofalus iawn arno, ond mae'n bwysig iawn nad ydym ni'n cael canlyniadau anfwriadol o bolisi o'r fath.
Fe wnaethoch chi sôn am yr hyn a wnaethom ni yn ystod pandemig COVID-19 i amddiffyn pobl rhag cael eu troi allan, ac, unwaith eto, mae'n rhywbeth y bydd y Gweinidog yn ei ystyried. Ond, byddwch yn ymwybodol o sawl darn o ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno—bydd y Ddeddf rhentu cartrefi, a fydd yn cael ei chyflwyno ym mis Rhagfyr, yn rhoi chwe mis o rybudd i bob tenant newydd, er enghraifft, pan nad ydyn nhw ar fai. Felly, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud o ran cymorth i denantiaid.
Mewn argyfwng, mae angen i ni fel Senedd allu pasio deddfwriaeth frys; fe allwn ni eistedd ar benwythnosau, os oes angen, i wneud hyn. Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi cyhoeddi y bydd rhent yn cael ei rewi tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf o leiaf. Mae Sadiq Khan, fel Maer Llundain, wedi gofyn am y grym i rewi rhent yno. Mae'r grym hwnnw eisoes gennym ni yng Nghymru, a chan na fydd rhent tai cymdeithasol yn cynyddu beth bynnag tan 1 Ebrill, ni fydd rhewi rhent dros y gaeaf yn costio ceiniog i Lywodraeth Cymru; mae'n canolbwyntio ar y sector preifat. Mae hyd yn oed ASau Ceidwadol fel Natalie Elphicke, cyn-brif weithredwr y Sefydliad Tai a Chyllid, yn gwneud y ddadl dros rewi rhent sector preifat, gan ddadlau nad oes cyfiawnhad dros y codiadau rhent gormodol yn ddiweddar. Nawr, rydym ni'n atal hynny yn y dyfodol drwy'r system o renti teg yr ydym ni'n ei hamlinellu yn y cytundeb cydweithredu, ond mae'r dewis sy'n ein hwynebu ni yng Nghymru nawr y gaeaf hwn rhwng rhewi rhenti neu rewi pobl. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru weithredu i rewi rhenti fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud?
Fel y dywedais, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n amlwg yn gyfrifol am dai, wrthi'n ystyried uchafswm y cynnydd i rent cymdeithasol, er enghraifft, yng Nghymru, a bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud maes o law. Nid wyf i yma i lunio polisi tai ar amcan, ond rwy'n amlwg yn ymwybodol bod y Gweinidog yn edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud. Ond mae'n bwysig nad ydych chi wedyn yn cael landlordiaid yn cymryd tai i'w rhentu oddi ar y farchnad yn sydyn, a chael y canlyniadau anfwriadol hynny.
Mae pobl yn wynebu'r argyfwng costau byw yma nawr, onid ydyn nhw, felly mae angen synnwyr o frys arnom ni. Rhewi rhent, mae'n ymarferol, mae'n angenrheidiol, ond nid yw'n radical nac yn newydd—fe'i gwnaed gan Lywodraeth Geidwadol Heath ym 1972 hyd yn oed, pan oeddem ni'n wynebu cyfnod o chwyddwasgiad ddiwethaf. Eto, fe'i gwnaed gan Harold Wilson pan etholwyd Llafur ym 1974. Os oedd canol-dde a chanol-chwith gwleidyddiaeth Prydain yn gallu ei wneud 50 mlynedd yn ôl, yna siawns y dylai'r Senedd hon gael yr un synnwyr o frys a gweithrediad nawr. Fe wnaethom ni warchod pobl agored i niwed yn ystod COVID a nawr mae'n rhaid i ni wneud yr un fath eto.
Nawr, ochr yn ochr â rhewi rhent, a allwch chi hefyd roi ystyriaeth frys ar unwaith i sefydlu gwasanaeth achub morgeisi i bawb sy'n mynd i gael eu heffeithio gan y cynnydd i gyfraddau llog hyd yn hyn a'r cynnydd pellach a ragwelir? Llywodraeth Cymru'n Un yn 2008 oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i gyflwyno polisi o'r fath, a llwyddodd i achub llawer iawn o deuluoedd rhag colli eu cartrefi.
Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch morgeisi. Swyddogaeth Llywodraeth, rwy'n credu, yw bod â stiwardiaeth ofalus iawn o'n trethi ac o'n harian, ac, yn sicr, mae'n ddull di-hid iawn y mae Llywodraeth y DU yn ei fabwysiadu, ac rydym ni wedi gweld y penawdau heddiw ynghylch morgeisi. Nid wyf i wedi cael y cyfle i drafod unrhyw beth yn ymwneud â chynllun achub morgeisi gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Ond rydych chi'n gwybod ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gwneud popeth o fewn ein gallu gyda'r ysgogiadau sydd gennym ni i helpu pobl yn uniongyrchol nawr o ran yr argyfwng costau byw, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n digwydd nawr ac mae angen i ni edrych ar ffyrdd o gynorthwyo pobl Cymru. Ond rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y bydd y Gweinidog yn cymryd golwg arno.