Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch. Mae gennym ni bolisi a strategaeth eglur ar gyfer caffael, rheoli a chael gwared ar asedau eiddo. Y prif nod yw sicrhau'r gwerth cyffredinol mwyaf posibl o'n hasedau. Mae'r holl drafodiadau posibl yn destun craffu gan weithwyr eiddo proffesiynol profiadol i sicrhau gwerth am arian a chanlyniadau gwerth cyhoeddus eraill.