Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch. Yn yr un modd â phandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gweithgareddau sy'n cynorthwyo aelwydydd agored i niwed yn uniongyrchol nawr, i'w helpu drwy'r cyfnod anodd iawn hwn. Mae dinasyddion yng Nghwm Cynon yn elwa o fentrau fel ein taliad costau byw, ein cynllun cymorth tanwydd a'n cronfa cymorth dewisol.