Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch am yr ateb yna, Trefnydd. Y rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn hwn heddiw yw am y rheswm bod y gaeaf ar y gorwel i ni nawr, ynghyd ag argyfwng costau byw, ac mae ein gweithwyr gofal cymdeithasol ymhlith rhai o'r gweithwyr ar y cyflog isaf yn y farchnad lafur, er gwaethaf eu hymroddiad a'r gwahaniaeth y maen nhw'n ei wneud i bobl ddydd ar ôl dydd. Felly, Trefnydd, gyda hynny mewn golwg, a ydych chi'n fodlon ailystyried hyn ac ymrwymo eich Llywodraeth i wario £9 miliwn yn ychwanegol i gysoni cyflogau staff gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG a rhoi sicrwydd iddyn nhw bod Llywodraeth Cymru ar eu hochr nhw?