Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch. Mae'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yn dal i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Roedd angen cymorth brys ar y sector gyda phroblemau recriwtio a chadw, a waethygwyd gan heriau a gyflwynwyd yn ystod pandemig COVID-19. Rydym ni wedi gwneud £43 miliwn ar gael i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar gyfer 2022-23 i ddarparu'r cymorth hwn.