Athrawon Ffiseg

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 27 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:37, 27 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym ni'n asesu niferoedd yr athrawon ffiseg mewn swyddi yn barhaus, ac mae nifer y penodiadau o'u cymharu â'r swyddi a hysbysebwyd wedi aros yn gymharol gyson dros y pum mlynedd diwethaf. Yn 2020-21, arweiniodd cynnydd i recriwtio cyffredinol i raglenni addysg gychwynnol athrawon uwchradd at 36 y cant o newydd-ddyfodiaid yn astudio i addysgu pynciau STEM.