Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 27 Medi 2022.
A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gan i'r penwythnos diwethaf hwn weld amharu'n llwyr ar wasanaethau rheilffordd yn ne Sir Benfro. Nid oedd y gwasanaeth bysiau yn lle trenau, dywedir wrthyf, yn gallu cymryd defnyddwyr cadair olwyn na beiciau, a allai, o bosibl fod wedi gadael teithwyr heb fedru teithio. Ar ôl gweithio gyda Grŵp Gweithredu Rheilffyrdd De Sir Benfro i dynnu sylw at yr anghysonderau o ran teithio ar y rheilffordd ar linell Doc Penfro, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad ynglŷn â'r hyn a achosodd yr amhariad yn ne Sir Benfro.
Yn ail, datganiad gan Weinidog yr economi o ran gweinyddu grantiau cymorth COVID ar gyfer busnesau, elusennau a sefydliadau. Cafodd Gerddi Castell Picton yn fy etholaeth i gadarnhad y byddai eu trydydd taliad a'r taliad olaf yn cael ei dalu yn ôl ym mis Chwefror eleni, ac eto, hyd yma, nid ydy'r taliad olaf hwn wedi'i dderbyn gan yr elusen, ac mae'r sianeli cyfathrebu wedi distewi. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Weinidog yr economi ar weinyddu'r grantiau hyn, pa daliadau sydd ar ôl a pha faterion sydd wedi achosi'r oedi i rai taliadau. Diolch.