Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 27 Medi 2022.
Gan adlewyrchu pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar, mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo ni i barhau â'n cefnogaeth i'n rhaglen Dechrau'n Deg blaenllaw. Gan weithio gyda'n cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithredu, rydym ni wedi ehangu ein hymrwymiad i sicrhau ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn raddol i gynnwys pob plentyn dwy oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddais y byddai ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn cael ei gyflwyno i ddechrau drwy ein rhaglen Dechrau'n Deg, a'r cam cyntaf yn cychwyn ym mis Medi eleni, y mis hwn. Bydd yr ehangu cychwynnol yn darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg i hyd at 2,500 o blant ychwanegol ledled Cymru dan bedair oed. Bydd y plant hyn a'u teuluoedd yn elwa ar gael mwy o gyfle i fanteisio ar wasanaethau ymwelwyr iechyd, cymorth gyda lleferydd, iaith a chyfathrebu, gwasanaethau magu plant, a gofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer plant rhwng dwy a thair oed. Rwy'n falch o roi gwybod i Aelodau'r Senedd bod y ddarpariaeth ychwanegol hon eisoes yn cael ei chyflwyno ledled Cymru, ac ynghyd ag Aelod dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian, rwyf i eisiau diolch i'n hawdurdodau lleol a'n partneriaid blynyddoedd cynnar ehangach am sicrhau y gallai'r ehangu hwn ddigwydd mor gyflym. Rydym ni wedi cael ymateb aruthrol ganddyn nhw.
Rydw i nawr yn gallu cadarnhau y bydd yr ail gam o ehangu yn canolbwyntio ar ddarparu'r elfen gofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer hyd yn oed fwy o blant dwy oed. Bydd y dull hwn yn datblygu'r un a gafodd ei ddefnyddio yng ngham 1, gan weithio gyda'n partneriaid awdurdodau lleol a'r sector gofal plant i ddarparu'r ddarpariaeth o'r safon uchaf. Gan ddechrau gyda rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, bydd y ddarpariaeth yn dechrau ym mis Ebrill, ac yn ystod y ddwy flynedd ganlynol, byddwn ni'n buddsoddi £26 miliwn i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg. Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu i ddarpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg ehangu'n sylweddol, gan gefnogi effeithiau hirdymor, cadarnhaol ar fywydau'r plant a'r teuluoedd hynny ledled Cymru sy'n wynebu'r heriau mwyaf, ac nid oes mwy o angen wedi bod amdano erioed.
Rwy'n falch o ddweud ein bod ni eisoes wedi cyhoeddi canllawiau drafft manwl ar gyfer ein partneriaid a'r sector. Bydd hyn yn galluogi cynllunio cynnar i ddigwydd ar lefel leol fel y gallwn ni wneud cynnydd cyflym tuag at gyflawni ein nod o ddarparu'r profiad gorau posibl yn y blynyddoedd cynnar i bob plentyn yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn ni hefyd yn ceisio cynyddu'r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg sydd ar gael. Mae ymrwymiad y cytundeb cydweithio hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogi darpariaeth y blynyddoedd cynnar gyfrwng Cymraeg. Rwy'n falch o gyhoeddi pecyn o fesurau i gefnogi lleoliadau a gweithwyr gofal plant cyfrwng Cymraeg presennol, yn ogystal â rhai sydd eisiau bod yn rhan o'r gweithlu plant. Bydd cyllid ychwanegol gwerth hyd at £3.787 miliwn yn cael ei ddarparu i Cwlwm yn ystod y tair blynedd ariannol nesaf i gefnogi amrywiaeth o fesurau, gan gynnwys hyfforddiant Cymraeg ychwanegol a phwrpasol, cefnogaeth bwrpasol i leoliadau cyfrwng Cymraeg, a'r rheini sy'n ceisio cynyddu eu defnydd o'r Gymraeg, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi wedi'u cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr arian hwn yn ein cefnogi ni i ddenu mwy o siaradwyr Cymraeg i'r gweithlu. Bydd yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg a siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu presennol wella eu sgiliau iaith, a bydd yn darparu rhaglen barhaus o ddatblygu proffesiynol ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu. Bydd cyllid yn cefnogi lleoliadau presennol i ehangu i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ynghyd â galluogi lleoliadau cyfrwng Cymraeg newydd, penodol i agor. Ac, fel y dywedais i'n gynharach, rwyf i wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar hyn gyda'r Aelod dynodedig, Siân Gwenllian.
Bydd cynyddu gallu ledled y sector gofal plant yn rhan annatod o ysgogi'r ehangu hwn, gan weithio ledled pob rhan o'r sector. Ers 2006, rydym ni wedi buddsoddi mwy na £160 miliwn mewn lleoliadau gofal plant ledled Cymru drwy ein Dechrau'n Deg a rhaglenni cyfalaf cynnig gofal plant. Gan ddatblygu'r llwyddiant hwn, rwy'n falch o gyhoeddi rhaglen gyfalaf newydd tair blynedd o £70 miliwn, a bydd cyfle i bob lleoliad gofal plant cofrestredig fanteisio arno. Mae ein cyllid presennol wedi cefnogi lleoliadau Dechrau'n Deg i ddatblygu a chynnal y seilwaith sydd ei angen i ddarparu'r cyflenwad llawn o wasanaethau ar gyfer plant cymwys a'u teuluoedd. Mae hyn wedi cynnwys lleoliadau gofal plant o ansawdd uchel a lleoliadau sy'n addas ar gyfer darparu rhaglenni magu plant ac iaith a datblygu cynnar.
Bydd y £70 miliwn ychwanegol yn ariannu gwaith cyfalaf mawr, yn ogystal â grant bach i ganiatáu lleoliadau i wneud cais am gymorth ariannol ar gyfer mân welliannau cyfalaf a gwaith cynnal a chadw hanfodol ledled ystad Dechrau'n Deg a gofal plant yng Nghymru. Bydd canllawiau ar y broses ymgeisio newydd yn cael eu rhoi i awdurdodau lleol yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen. Mae'n £100 miliwn gyda'i gilydd i'r sector gofal plant, mae'n ganlyniad y cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ac rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu gwneud y cyhoeddiad hwn yn y Senedd heddiw.