4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Darpariaeth y Blynyddoedd Cynnar — Ehangu Dechrau’n Deg

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 27 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:21, 27 Medi 2022

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad heddiw. Yn amlwg, rydym ni'n falch o weld ymrwymiad pellach o'r cytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn cael ei wireddu, dim jest ar bapur ond yn cyflawni i bobl Cymru. Ac i Blaid Cymru, mae gofal plant am ddim i blant dwy oed yn gam cyntaf pwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer gofal plant rhad ac am ddim i bawb. Dengys y gallwn wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru, a hyd yn oed gyda'r pwerau sydd gennym, y gallwn roi mesurau ar waith i roi'r dechrau gorau posib i'n plant, tra hefyd roi ar waith fesurau i drechu tlodi. Yn sicr, mae'r rhain yn fesurau pwysig o ran hynny. 

Yn sgil yr argyfwng costau byw, bydd hyn yn darparu achubiaeth i nifer o deuluoedd, drwy ddiddymu costau a hefyd drwy ddiddymu'r rhwystr i rieni a allai ddymuno dychwelyd i'r gwaith. Ond man cychwyn yw hyn. Rhaid i gynnydd Llywodraeth Cymru ar ofal plant am ddim fod yn uchelgeisiol, a pharhau i fod, er mwyn sicrhau bod cymaint o blant â phosibl yn y blynyddoedd i ddod yn gallu elwa o leoliadau gofal plant o oedran ifanc. Mae'n rhaid symud mor gyflym â phosib i wireddu'r polisi, ac yn y pen draw hoffem ni weld gofal plant am ddim yn cael ei ddarparu i bob plentyn dros un flwydd oed, a gobeithio y gallwn gytuno mai dyma ddylai fod y nod yn y pen draw.

Ochr yn ochr â chyflymu ac ehangu yw'r angen i sicrhau bod ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ganolog i hyn a'i fod yn cael ei weld fel rhan graidd o’r datganiad heddiw—nid fel rhywbeth ar wahân neu sy’n digwydd ochr yn ochr â hyn, ond yn gyfan gwbl greiddiol. Dyma’r unig ffordd o sicrhau bydd pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddysgu dwy iaith swyddogol ein gwlad a chyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, a chynyddu defnydd o'r iaith yn y pen draw.

Wrth gwrs, fel y gwnaethoch chi amlinellu yn y datganiad, yr her fawr yw datblygu'r gweithlu fel y gellir cynnig gwasanaethau gofal plant ledled Cymru yn y Gymraeg, ac mae yn dda gweld buddsoddiad yn hyn. Gaf i felly bwyso ar y Dirprwy Weinidog i gadarnhau heddiw bod ehangu'r ddarpariaeth ar fyrder yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, a bod y Gymraeg yn rhan ganolog, yn hytrach nac atodol, i'r cynlluniau hyn?