Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 27 Medi 2022.
O ran y sylw am reoli llwyth gwaith, bu gennym ni broses ers tro sydd wedi ennyn diddordeb athrawon, undebau athrawon, y Llywodraeth a phartneriaid eraill a rhanddeiliaid yn y system addysg i edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i ddileu'r elfennau hynny o lwyth gwaith a allai fod wedi cronni dros amser ac i edrych arnyn nhw mewn golau newydd gan ddweud, 'Ydyn nhw'n hollol angenrheidiol? Ydyn nhw'n ychwanegu'r gwerth sy'n cyfiawnhau maint yr ymrwymiad a'r oriau y bydd yn rhaid i athrawon a staff addysgu eu gweithio yn fras i ymateb i'r rheiny?' Felly, mae'r gwaith hwnnw—wyddoch chi, mae'n waith heriol. Nid yw'r pethau hyn wedi'u cynllunio ar hap, maen nhw wedi'u cynllunio'n gyffredinol am resymau da, ond efallai o bryd i'w gilydd mae angen i ni edrych o'r newydd ar hynny, bwrw golwg eto arnyn nhw. Felly, bu'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ers tro, ac rwy'n disgwyl cael cyngor yn fuan iawn am rai pethau penodol yr ydym ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw gyda'r proffesiwn i leihau llwyth gwaith. Felly, byddaf yn gallu cyflwyno datganiad, gobeithio, yn y dyfodol agos a fydd yn rhoi ychydig mwy o gig ar yr asgwrn mewn cysylltiad â hynny.
Gofynnodd sawl peth mewn perthynas â chynorthwywyr addysgu, ac fe hoffwn i adleisio ei werthfawrogiad o'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Mae ganddo brofiad personol o hynny, fel y dywed. Mae gennym ni lwybr ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon, ar gyfer cynorthwywyr addysgu. Bydd yr hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol hefyd yn ymestyn i gynorthwywyr addysgu. Fel y bydd yn gwybod o'r datganiad a wnes i yn gynharach eleni, buom yn gwneud gwaith o ran safoni swyddogaethau a'r canllawiau mewn cysylltiad â defnyddio cynorthwywyr addysgu, cyngor i gyrff llywodraethu ac ati. Rwy'n argymell ei fod yn bwrw golwg dros y datganiad hwnnw, a fydd yn egluro iddo'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i gefnogi ein cynorthwywyr addysgu.
O ran yr hawl genedlaethol broffesiynol, bydd wedi fy nghlywed yn dweud yn y datganiad mai holl ddiben honno yw ei bod yn hawl genedlaethol. Mae'r cliw yn yr enw. Felly, mae'r wefan sy'n cael ei lansio heddiw yn rhoi mynediad i athrawon mewn unrhyw ran o Gymru i'r cynnig dysgu proffesiynol o gonsortia mewn unrhyw ran o Gymru. Felly, nid yw bellach wedi'i gyfyngu i'r consortiwm penodol lle mae'r athro neu'r athrawes unigol yn digwydd bod yn dysgu. Felly, mae'r wybodaeth honno bellach ar gael yn genedlaethol oherwydd y rheswm yr oedd yn holi yn ei gylch yn ei gwestiwn, a byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd y dysgu proffesiynol, y cynnig. Rydym ni wrthi'n gyson yn gwerthuso mewn cysylltiad â dysgu proffesiynol gan fod cymaint yn digwydd yn y system ar hyn o bryd. Ond, gallaf ei sicrhau y bydd hynny'n rhan o'n gwaith yn hynny o beth.
Gofynnodd am eglurder ynglŷn â phryd y cai penderfyniad ei gyhoeddi ynghylch y diwrnod hyfforddiant mewn swydd. Mae ychwanegu diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol yn gofyn am reoliadau, ac mae hynny'n gofyn am ymgynghori. Rydym ni wedi lleihau'r cyfnod ymgynghori sy'n gyson â'r hyn yr ydym ni'n teimlo yw'r amser priodol i roi cyfle i bobl ymateb. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Hydref, felly rwy'n gobeithio gallu gwneud datganiad yn eithaf buan ar ôl hynny, fel y bydd gan ysgolion yr eglurder y gwn i ein bod i gyd eisiau ei weld. Ond, mae'n rhan anhepgor o'r broses, fel y gwn i y bydd yn deall.
Gofynnodd am gyfeillio. Mae mentora, fel y byddwch wedi clywed o fy natganiad, yn rhan allweddol o'n cynnig ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar, felly rwy'n gobeithio y bydd hynny wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd iddo.