5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi’r Gweithlu Addysg

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 27 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:43, 27 Medi 2022

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Da oedd clywed yn glir ar ddechrau eich datganiad fod lles y gweithlu yn ystyriaeth flaenllaw ym mhopeth, a dwi'n ategu'r sylwadau hynny o ran y pwysigrwydd.

Fel amryw o Aelodau eraill, mynychais ddigwyddiad dros ginio yma y Senedd ar gyfer lansiad y canllaw byr, 'Mynd i’r afael â thlodi plant gyda'n gilydd', gan Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru a'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, a chlywed tystiolaeth hynod o bwerus ynglŷn ag effaith yr argyfwng costau byw, nid yn unig ar blant a phobl ifanc, ond hefyd y gweithlu. Mae’r straen ychwanegol ar athrawon o ran cefnogi dysgwyr a’u teuluoedd yn rhywbeth sy’n bwysig i ni ei hystyried, a hoffwn ofyn heddiw pa gamau pellach sydd yn cael eu cymryd gan y Llywodraeth i sicrhau mwy o gefnogaeth i’r gweithlu addysg o ran hyn. Ategwyd effaith hyn ar staff gan arolwg yr undeb athrawon, a ganfu bod 58 y cant o athrawon wedi dweud eu bod wedi rhoi bwyd neu ddillad i’w disgyblion, bod chwech ymhob 10 wedi cael cymorth asiantaethau allanol i deuluoedd, a bod 35 y cant wedi cefnogi teulu disgybl i gael mynediad at fanc bwyd.

Clywsom gan y dysgwyr yn y digwyddiad heddiw hefyd yn glir sut y maent yn ystyried cost trafnidiaeth ysgol yn rhwystr i bobl fod yn cyrraedd yr ysgol. Gydag ysgolion yn cael eu mesur ar bresenoldeb, a phwysau ar athrawon i gyrraedd targedau o ran presenoldeb, yn sicr, mae hyn yn her. Rydych chi'n gwybod eu bod nhw'n cael eu mesur o ran presenoldeb hefyd efo disgyblion, ac mae hynny yn rhywbeth mae prifathrawon yn gweithio'n galed arno fo, oherwydd ein bod ni i gyd yn gwybod pwysigrwydd cael plant yn yr ysgol. Ond mae hynny'n her ychwanegol, pan fo'n rhaid argyhoeddi teuluoedd o bwysigrwydd hynny a'u cefnogi nhw i allu fforddio cyrraedd yr ysgol.

Ond rhaid hefyd cofio bod y gweithlu nid yn unig yn cefnogi pobl sydd wedi'u heffeithio gan yr argyfwng costau byw, ond eu bod hefyd yn wynebu eu heriau eu hunain, gyda phris tanwydd, er enghraifft, wedi cynyddu, gan olygu bod teithio i'r gwaith yn ddrutach, heb sôn am gynnydd mewn costau eraill mae pawb ohonom yn eu hwynebu. Yn bellach, a chithau wedi sôn am bwysigrwydd cynorthwywyr addysgu, rhaid hefyd cydnabod eu bod nhw’n benodol yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw. Mae llu o brifathrawon wedi rhannu gyda mi eu bod wedi sefydlu banciau bwyd mewn ysgolion, nid yn unig i gefnogi dysgwyr a’u teuluoedd ond hefyd staff. Pa waith, felly, sy’n cael ei wneud gan y Llywodraeth i ddeall effaith yr argyfwng costau byw ar y gweithlu addysg yn ei gyfanrwydd?

Fel y crybwyllais wythnos diwethaf yn ystod y sesiwn gwestiynu, mae'r Alban wedi dechrau lleoli cynghorwyr arbenigol mewn ysgolion er mwyn darparu cymorth a sicrhau bod pawb yn gwybod sut mae derbyn y gefnogaeth ariannol sydd ar gael iddynt, boed hwy’n ddisgyblion neu'n staff neu'n rhan o'r gymuned ehangach. Ar y funud, mae'r bwrdwn hwn i'w weld yn disgyn ar athrawon a phrifathrawon. Felly, ydych chi wedi cael cyfle i ystyried yn bellach manteision ceisio efelychu cynllun fel yr Alban yma yng Nghymru? Oherwydd, fel rydych chi wedi sôn yn eich datganiad, mae yna fwrdwn ar athrawon rhwng y cwricwlwm newydd, anghenion dysgu ychwanegol ac ati. Mae'r argyfwng costau byw yn amlwg yn elfen arall o hynny, a byddwn i yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.