Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 27 Medi 2022.
I gefnogi ein nod i hyrwyddo Cymru ac ymgysylltu mewn diplomyddiaeth, bydd y Prif Weinidog, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Phrif Chwip a minnau yn mynychu amryw o ddigwyddiadau, yn ogystal â phob un o gemau grŵp Cymru yn erbyn UDA, Iran a Lloegr. Ac rwy’n gobeithio ychwanegu mwy, yn dibynnu ar gynnydd yn y twrnamaint. Nod craidd yr ymweliadau hyn fydd cefnogi mentrau a fydd yn helpu i ddatblygu'r economi, codi proffil Cymru a'n hyrwyddo fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae ein swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Dubai a Qatar wedi darparu rhaglen eang a llawn o ymrwymiadau i Weinidogion a fydd yn ceisio sicrhau'r gefnogaeth fwyaf gennym i'r mentrau hyn.
Byddwn ni hefyd yn defnyddio rhwydwaith ehangach Llywodraeth Cymru o swyddfeydd tramor i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i hyrwyddo Cymru ac ymgysylltu â rhanddeiliaid rhyngwladol allweddol, yn enwedig yn Qatar, Dubai, yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'n cenhadon o Lywodraeth Cymru, yn enwedig yn yr UDA a Dubai, a'n Cymry ar wasgar yn ehangach. Rydym ni’n gweithio'n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac, yn wir, y llysgenhadaeth yn Qatar, ar gyfleoedd i hyrwyddo Cymru. Bydd gennym ni ein presenoldeb Cymreig amlwg yn Doha a chynnwys Cymreig ym mhafiliwn gerddi UK GREAT, gŵyl GREAT a Diwrnod y DU. Bydd gennym dderbyniad VIP ar thema Cymru ar 21 Tachwedd, i gyd-fynd â gêm yr UDA, a gynhelir gan lysgennad Prydain i Qatar, gyda'n Prif Weinidog yn brif westai.
Rydym yn hynod ymwybodol o'r heriau sylweddol wrth gynnal digwyddiad o'r natur hon yn Qatar, gyda'r cydbwysedd gwych rydym ni ei angen rhwng manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a hyrwyddo ein gwerthoedd craidd fel cenedl. Mae cynnal cwpan y byd yn Qatar wedi taflu goleuni ar hawliau dynol y wlad honno a hanes hawliau gweithwyr. Rydym ni’n gwybod na fydd rhai o'n cefnogwyr LHDTC+ yn teithio i'r wlad, oherwydd ei safiad ar hawliau LHDTC+, er enghraifft. Byddwn yn defnyddio ein llwyfan fel cyfle i fynegi ein gwerthoedd ac i ddangos bod Cymru yn genedl o werthoedd ar lwyfan y byd. Byddwn yn gwneud hyn drwy ein hymgyrch farchnata fanwl a'n hymgysylltiad rhyngwladol, gan gynnwys trwy hyrwyddo straeon amrywiol y Gymru fodern sydd ohoni ac, yn wir, o Gymru fel cenedl noddfa. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod amrywiaeth ein perthynas fyd-eang yn golygu na fydd pob un o'r gwledydd y mae gennym ni berthynas â nhw yn rhannu'r un gwerthoedd. Rydym ni’n defnyddio dull cytbwys tuag at ein hymgysylltiad rhyngwladol, gan hyrwyddo gwerthoedd Cymru ac ymgysylltu'n adeiladol â phartneriaid a rhanddeiliaid ar draws y materion hyn. I sicrhau diogelwch a diogeledd dinasyddion Cymru yn Qatar, a chroeso i bawb, rydym yn ymgysylltu'n barhaus â Llywodraeth y DU drwy gyfarfodydd rheolaidd ac amryw o asiantaethau'r Llywodraeth. Mae sianeli cyswllt rheolaidd wedi'u sefydlu ar gyfer y newyddion diweddaraf am faterion diogelwch a diogeledd gan bwyllgor goruchaf Qatar, sef y pwyllgor sy'n gyfrifol am reoli a threfnu'r digwyddiad.
Fel Llywodraeth, a gyda'n partneriaid ehangach, mae angen i ni sicrhau ein bod yn adeiladu gwaddol o gwpan y byd sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fechgyn a merched. Yn bwysicach fyth, rydym ni eisiau datblygu gweithgarwch corfforol a chyfranogiad chwaraeon i gefnogi iechyd a llesiant ein cenedl. Er mwyn helpu i sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol, mae ein rhaglen lywodraethu eisoes yn ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon, gyda chyllideb gyfalaf o £24 miliwn dros y tair blynedd nesaf i gefnogi buddsoddiad mewn cyfleusterau ar draws pob camp. Rydym ni hefyd yn buddsoddi mewn cyfleusterau drwy'r rhaglen gyfalaf ysgolion ac, yn wir, yn uniongyrchol drwy awdurdodau lleol. Ond, y tu hwnt i hynny, mae cyfle i bob un ohonom ni, fel unigolion, busnesau, sefydliadau ac, yn wir, fel arweinwyr cymunedol yn yr ystafell hon a thu hwnt, i gofleidio gwaddol ein cyfranogiad yn y cwpan y byd hwn.
Wrth ddathlu llwyddiant y dynion, mae gennym ni lawer hefyd i ymfalchïo ynddo gyda chynnydd tîm y merched. Gyda Chwpan y Byd Merched FIFA 2023 yn Awstralia a Seland Newydd ar y gorwel, pe bai ein tîm merched yn llwyddo i gyrraedd yno drwy'r gemau ail-gyfle, fel rydym ni’n ei obeithio, dylem ni geisio adlewyrchu gweithgaredd a dysgu cefnogi'r tîm ar eu taith eu hunain yng Nghwpan y Byd. Ac rydym ni, wrth gwrs, i gyd yn dymuno'n dda i'r tîm yn eu gemau ail gyfle sydd i ddod yn erbyn Bosnia a Herzegovina ar 6 Hydref.
Dirprwy Lywydd, fel y gwelwch chi, rydym ni wedi sefydlu ystod uchelgeisiol a chyffrous o weithgareddau i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle unigryw hwn. Fy mwriad yw rhoi datganiad a diweddariad pellach ym mis Tachwedd cyn seremoni agoriadol cwpan y byd ar 20 Tachwedd. Yn y cyfamser, dymunaf yn dda i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'i phartneriaid wrth baratoi.