Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 27 Medi 2022.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ddod â'r datganiad hwn i'r Senedd heddiw? Am gyfle anhygoel sydd gennym ni yma. Am foment hanesyddol yn ein hanes i weld Robert Page a gweddill Tîm Cymru yn ein cwpan y byd cyntaf ers 1958—ein cwpan y byd cyntaf mewn 64 mlynedd, rwy'n credu. Fe wnaethom ni sicrhau ein lle yn ôl ym mis Mehefin mewn gêm yr wyf fi’n credu eich bod chi yno, ac roeddwn i’n sicr yno, Gweinidog—rwy'n credu fy mod wedi eich gweld chi yno. Roedd hi’n fraint fawr i’r ddau ohonom ni gael bod yn bresennol, yn yr achos hwnnw. Dim ond 54 diwrnod a hanner sydd gennym ni cyn dechrau'r hyn sy'n gyfle euraidd i arddangos ein cenedl wych i weddill y byd. A'r ffordd orau i ni arddangos ein gwlad wych i weddill y byd yw trwy ein cefnogwyr Cymreig gwych, oherwydd maen nhw'n gwybod nad dim ond pan fydd cwpan y byd yn dechrau y gallwn ni arddangos Cymru; mae 'na gyfle i roi blas i bobl ar fywyd Cymru a chyfle i ni adael gwaddol yn Qatar. A does dim enghraifft well o hynny na'r arddangosfa enghreifftiol gan gefnogwyr teithiol Cymru yn y gêm oddi cartref ddiweddar yng Ngwlad Belg, lle roedden nhw'n codi sbwriel ym Mrwsel i sicrhau nad oedden nhw'n gadael unrhyw ôl troed ar ôl.
Roedd llawer o'ch datganiad heddiw, Gweinidog, yn rhoi sylw i ymgyrch Lleisiau Cymru, sy'n neilltuo £2.5 miliwn i gyflwyno'r hyn yr ydych chi'n ei alw'n rhaglen farchnata fanwl. Ond, mae'r pethau hyn fel arfer dim ond gwerth y papur y maen nhw'n cael eu hysgrifennu arno os ydych chi hefyd yn cyhoeddi nid yn unig y ffigur ariannol ond y metrigau y byddai'r cynllun hwn yn cael ei farnu'n llwyddiant arnynt. Felly, sut mae llwyddiant yn edrych, yn union, ar gefn y gronfa arbennig hon? Sut gallwn ni farnu p’un a gafodd yr arian hwnnw ei wario'n dda ai peidio? A fyddwch chi'n ymrwymo i rannu'r metrigau penodol hyn â'r Senedd?
Ffordd arall i gefnogi Cymru yn rhyngwladol, fel y soniwyd amdano yn eich datganiad, yw drwy gronfa gymorth partner cwpan y byd. Fe wnaethom ni rybuddio ar y pryd y byddai'r ffenestr fer iawn ar gyfer ceisiadau o ddim ond 11 diwrnod yn anfantais sylweddol i amrywiaeth eang o ymgeiswyr o bob cwr o Gymru, a bydd yn hytrach yn ffafrio sefydliadau sydd â pherthnasau blaenorol â Llywodraeth Cymru a oedd â'r capasiti a'r wybodaeth i gael y cyllid hwn. Mae gen i ofn dweud bod eich datganiad ysgrifenedig wedi cadarnhau hynny’n gynharach heddiw. Mae cyfanswm o £1.9 miliwn wedi'i ledaenu ar draws 19 o sefydliadau yng Nghymru. Y buddiolwyr mwyaf yw sefydliadau fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, S4C, Cyngor y Celfyddydau a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru—pob un yn achos teilwng yn eu rhinwedd eu hunain, ond collodd Llywodraeth Cymru yma gyfle i wneud pethau'n wahanol ac ymgysylltu â nifer fawr o sefydliadau ledled Cymru, nid dim ond y sefydliadau mawr arferol sydd wedi'u lleoli yma yng Nghaerdydd. Felly, Gweinidog, o fyfyrio, ydych chi'n derbyn y gallai'r amserlen dynn fod wedi cael ei hymestyn rhywfaint er mwyn caniatáu mwy o ehangder o gyfle i grwpiau llai ledled y wlad gymryd rhan? A gaf i ofyn hefyd, Gweinidog, faint o sefydliadau yn gyfan gwbl a ymgeisiodd am y gronfa benodol hon, a beth oedd rhai o'r prosiectau'n ei gynnwys yn y grwpiau hyn? Sut fydd Llywodraeth Cymru'n rhoi cyfle i'r grwpiau hynny oedd naill ai'n aflwyddiannus neu, efallai, nad oedd ganddyn nhw'r amser i ymgeisio, i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau, o gwmpas adeg cwpan y byd ac wedi hynny?
Yn olaf, roeddwn i eisiau codi un sefydliad nad yw’n ffitio'r mowld fel y mae'r lleill yn ei wneud yn eich rhestr, a’r Barry Horns yw’r rheiny, sydd, rwyf wedi ei weld, wedi derbyn £17,032 o arian trethdalwyr o gronfa gymorth partner cwpan y byd. Allwch chi egluro sut y gwnaed y penderfyniad penodol hwn a beth oedd y rhesymeg dros eu cynnwys? Os yw'r cwpan y byd hwn i ddod â ni at ein gilydd fel cenedl a lledaenu cynwysoldeb yn y ffordd yr ydych chi'n ei awgrymu, mae'n bwysicach nag erioed bod Llywodraeth Cymru yn ymbellhau oddi wrth y sefydliad arbennig hwn. Bydd unrhyw un sy'n treulio hyd yn oed ychydig bach o amser ar gyfryngau cymdeithasol yn gweld mai ‘The Barry Horns' yw un o'r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol mwyaf difrïol a gwenwynig yng Nghymru heddiw. Ni does modd ail-adrodd y rhan fwyaf o'u cynnwys yn y Siambr hon, ond maen nhw’n ceisio cystwyo unrhyw unigolyn gyda safbwynt gwleidyddol gwahanol i'w safbwynt eu hunain. Rydw i fy hun wedi gorfod eu rhwystro ar Twitter am y ffordd y maen nhw wedi fy nghystwyo i'n bersonol, ac mae nifer o fy nghyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig yma wedi gorfod gwneud yr un peth.
Mewn cenedl lle mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ail blaid fwyaf o ran cynrychiolaeth seneddol yn y ddwy Senedd, sut y gallwn ni ddefnyddio arian trethdalwyr yn gyfreithlon i ariannu sefydliad sy'n lledaenu casineb a bustl tuag at gyfran mor fawr o'r boblogaeth? Yn wir, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn ceisio cuddio eu hymlyniad gwleidyddol; gan gofio bod gennym ni gêm yn erbyn Lloegr i ddod yng Nghwpan y Byd, fe ddywedon nhw'n ddiweddar fod Cymru'n cael ei dinistrio gan reolaeth Lloegr. Yn etholiad y Senedd, fe wnaethon nhw ddefnyddio'r hashnod 'cicio'r Torïaid allan o'r Senedd', a hyd yn oed y llynedd roedden nhw'n postio, 'Ydych chi wedi ymuno â Phlaid Cymru eto? Gwnewch hynny nawr.' Mae'n egwyddor sydd wedi hen ennill ei phlwyf yn y wlad hon na ddylem ni fod yn defnyddio arian trethdalwyr i ariannu achosion gwleidyddol pleidiau, a dylem ni gymryd gofal ychwanegol i sicrhau nad yw'r canfyddiad bod hyn yn digwydd yn cael cydio chwaith. Felly byddwch yn deall fy syndod o'u gweld yn cael eu cynnwys yn y rhestr hon, a thrwy eu hariannu, fe allech chi daflu cyhuddiad yn erbyn Llywodraeth Cymru eu bod yn cymeradwyo nifer o'u sylwadau ymfflamychol. Felly yn olaf, Gweinidog, a wnewch chi ymrwymo i adolygu'r ffigur o £17,000 a ddyfarnwyd gan eich Llywodraeth i'r grŵp hwn?