Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 27 Medi 2022.
Diolch yn fawr, Llywydd, am gyfle i roi diweddariad i'r Aelodau ynghylch ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Pan wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ddiwethaf ym mis Mehefin, roedd Cymru wedi croesawu ychydig dros 2,200 o Wcrainiaid i Gymru o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys ein llwybr uwch-noddwr, ac rwy'n falch o ddweud bod y nifer hwn wedi codi'n sylweddol dros doriad yr haf. Roedd dros 5,650 o bobl o Wcráin, a noddwyd gan Lywodraeth Cymru a chartrefi Cymreig, wedi cyrraedd y DU erbyn 20 Medi. Mae rhai ychwanegol wedi cyrraedd o dan y cynllun Teuluoedd o Wcráin, ond nid ydym yn cael y data hwnnw gan Lywodraeth y DU.
Ond mae mwy na 8,200 o fisâu bellach wedi'u rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, felly gallwn ddisgwyl i nifer y rhai sy'n cyrraedd barhau i godi yn yr wythnosau nesaf, er ein bod yn rhagweld y bydd yn arafach na thros gyfnod yr haf.
Mae ein partneriaid mewn llywodraeth leol, y GIG, y trydydd sector, gwirfoddolwyr ac, wrth gwrs, yr holl bobl hynny sy'n gweithredu fel noddwyr, yn gwneud ymdrechion rhyfeddol i gefnogi ceiswyr noddfa gyda'r gwasanaethau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Mae Gweinidogion Cymru ac arweinwyr awdurdodau lleol bellach yn cyfarfod bob pythefnos i sicrhau cydweithio agos ar gyflawni'r cynlluniau hyn.
Mae ein llwybr uwch-noddwr ni wedi cefnogi mwy na 2,700 o Wcrainiaid yma yng Nghymru, gyda 1,700 yn rhagor wedi cael fisâu wedi'u rhoi gyda Llywodraeth Cymru fel noddwr. Rydym yn gweithio gyda'r Swyddfa Gartref er mwyn canfod pa mor debygol yw hi y bydd y 1,700 o unigolion hynny yn cyrraedd Cymru, fel y gallwn gynllunio'n iawn ar gyfer darparu llety a chefnogaeth gofleidiol.
Ers i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ddiwethaf, rydym wedi cael sawl canolfan groeso llety cychwynnol dros dro yn ymuno â'n cynllun, ac mae rhai wedi dod i ben. Bydd aelodau'n gwerthfawrogi nad ydym yn gwneud sylwadau ar y safleoedd dros dro hyn, sy'n cael eu defnyddio, am resymau diogelwch a phreifatrwydd, ond rwyf eisiau talu teyrnged i bartneriaid sydd wedi ein cefnogi ac sydd bellach wedi cau eu darpariaeth. Mae'r gofal a'r tosturi a ddangoswyd gan yr awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, prifysgolion a'r trydydd sector o ran darparu llety cychwynnol a dangos eu hymrwymiad i'n cenedl o weledigaeth noddfa wedi bod yn eithriadol. Rwyf hefyd eisiau diolch i bawb sy'n parhau i fod ar reng flaen ein cefnogaeth i'r rhai sy'n cyrraedd.