Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 27 Medi 2022.
Wrth wraidd y Bil mae'r amcanion rheoli tir cynaliadwy, a'r ddyletswydd a roddir ar Weinidogion Cymru. Mae hyn wedi'i wreiddio mewn pedwar amcan sy'n gweithio i gefnogi cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ein sector amaethyddol yma yng Nghymru. Yr amcanion yw: cynhyrchu bwydydd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy; lliniaru ac addasu i newid hinsawdd; cynnal a gwella cydnerthedd ein hecosystemau; gwarchod a gwella cefn gwlad a diwylliant Cymru, a hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg; a byddant yn cyfrannu at gyflawni nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bydd y fframwaith yn galluogi Llywodraeth Cymru i gefnogi ein ffermwyr a'u cyfraniad, nid yn unig fel cynhyrchwyr bwyd hanfodol, ond hefyd fel gwarchodwyr tir, ecosystemau a diwylliant Cymru. Bydd yn cydbwyso ein diogeledd bwyd â'r gweithredoedd sydd eu hangen yn daer yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur a ddatganwyd. Yn graidd iddo mae rheoli tir cynaliadwy yn gweithio i sicrhau bod ein ffermwyr yn parhau i gynhyrchu bwyd a nwyddau amaethyddol o ansawdd uchel am genedlaethau i ddod.
Er mwyn sicrhau bod y camau yr ydym ni'n eu cymryd yn cael yr effaith y dylen nhw, mae'r Bil yn cynnwys gofynion adrodd a monitro cadarn. Gan weithio i olrhain y cynnydd tuag at gyflawni'r pedwar amcan drwy ddefnyddio dangosyddion a thargedau, bydd yn sicrhau atebolrwydd, tryloywder a goruchwyliaeth, yn ogystal â darparu sylfaen dystiolaeth bwysig ar gyfer penderfyniadau polisi'r dyfodol. Drwy sicrhau cyfleoedd parhaus a chadarn i graffu, mae'r darpariaethau adrodd a monitro yn helpu i sicrhau bod cefnogaeth a deddfwriaeth yn gweithio'n effeithiol i'n sector amaethyddol yng Nghymru, gan ymateb i heriau ac annog arloesedd.
Ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddais gynigion amlinellol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy. Er mai'r cynllun arfaethedig fydd prif ffynhonnell cefnogaeth Llywodraeth yn y dyfodol i ffermwyr yng Nghymru, mae'r Bil yn darparu'r fframwaith lle bydd pob cymorth amaethyddol yn y dyfodol yn cael ei gyflawni. Dywedodd ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru y byddem yn ceisio cydweithio ar y trefniadau tymor hirach ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, gan gydnabod anghenion penodol ffermydd teuluol yng Nghymru a chydnabod cynhyrchu bwyd lleol, sy'n gynaliadwy yn ecolegol. Mae'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn benodol yn cynnwys y pŵer i Weinidogion ddarparu cefnogaeth gyda'r diben o annog cynhyrchu bwyd mewn modd amgylcheddol gynaliadwy. At hynny, mae heddiw'n nodi dechrau taith ddeddfwriaethol y Bil hwn, a gallaf gadarnhau bod gwaith yn mynd rhagddo ar welliannau pellach i'r Bil yr ydym yn bwriadu eu cyhoeddi ar y cyd â Phlaid Cymru yn ystod Cyfnod 1.
Mae'r Bil hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu cefnogaeth yn y dyfodol i'r sector mewn ffordd sy'n gweithio i'n ffermwyr a'n tir i gefnogi'r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy. Mae'n gyfrwng allweddol yn ein dull o gefnogi ffermwyr a'r sector i gynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn ffordd gynaliadwy. Bydd hyn yn cefnogi ymrwymiadau amgylcheddol a hinsawdd y Llywodraeth hon, yn ogystal â'n sector amaethyddol a hefyd y cymunedau gwledig y mae'n chwarae rhan annatod ohonyn nhw. Drwy'r darpariaethau yn y Bil, rwyf eisiau sicrhau y gallwn barhau i gefnogi ac annog ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr i greu a chynnal sector amaethyddol ffyniannus.
Fel rhan o unrhyw lywodraethu da, mae monitro ac adrodd rheolaidd yn hanfodol. Mae'r Bil yn sicrhau, ar gyfer yr holl gefnogaeth a ddarperir, bod rhaid cael adroddiadau blynyddol sy'n ymdrin â gwariant ac adrodd cyfnodol i fonitro a gwerthuso effaith y gefnogaeth ar draws y sector, yn ogystal â mesur o gymharu â'r dibenion cymorth a roddir wrth gyfrannu at amcanion rheoli tir yn gynaliadwy. Bydd hyn yn sicrhau gwerth am arian cyhoeddus a chefnogaeth sy'n addasol i anghenion y sector.
Bydd y Bil yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n darparu llwybr i denantiaid i ddatrys anghydfod er mwyn sicrhau nad yw tenantiaid amaethyddol, er enghraifft, wedi'u cyfyngu'n annheg rhag cael cymorth ariannol a ddarperir o dan bŵer darpariaethau cymorth yn y Bil. Bydd y broses newydd yn cynnig cymhelliant i denantiaid a landlordiaid ddod i gytundeb a drafodwyd er mwyn osgoi costau datrys anghydfod, gan ddarparu cam deddfwriaethol wrth gefn a ffordd o ddatrys anghydfod i'r tenantiaid hynny na allant ddod i gytundeb rhesymol gyda'u landlord.
Mae'r Bil yn disodli'r pwerau amser cyfyngedig yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 i Weinidogion Cymru, gan gynnwys pwerau i Weinidogion Cymru alluogi parhad y gefnogaeth amaethyddol sy'n bodoli eisoes, i gasglu a rhannu data o'r sector amaethyddol, ac ymyrraeth mewn marchnadoedd amaethyddol a safonau marchnata y mae'n rhaid i gynnyrch amaethyddol penodol gydymffurfio â nhw. Mae'r Bil hefyd yn disodli pwerau amser cyfyngedig i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ar gyfer dosbarthu carcasau ac addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth, safonau marchnata a dosbarthu carcasau.
Yn dilyn ein rhaglen o ymrwymiad y llywodraeth, rwy'n falch o gadarnhau bod y Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud. Mae'n bwysig nodi arwyddocâd y darpariaethau hyn. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i wahardd y defnydd o faglau a thrapiau glud yn llwyr. Dyma benllanw blynyddoedd lawer o ymgysylltu ar leihau niwed a gwella lles anifeiliaid. Rwyf bellach wedi fy argyhoeddi mai gwaharddiad yw'r unig ffordd ymlaen. Mae maglau a thrapiau glud yn ddyfeisiau diwahân pan ddaw at yr anifeiliaid y maen nhw'n eu dal. Maen nhw'n gynhenid annynol i rywogaethau targed a rhai nad ydyn nhw wedi eu targedu ac, o'r herwydd, maen nhw'n anghydnaws â safonau uchel lles anifeiliaid yr ydym yn ymdrechu i'w cyrraedd yma yng Nghymru.
Mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i ddiwygio Deddf Coedwigaeth 1967, gan alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ychwanegu amodau er mwyn diwygio, atal neu ddirymu trwyddedau torri coed, i atal torri a fyddai'n mynd yn groes i unrhyw ddeddfwriaeth amgylcheddol arall. Mae hyn yn cefnogi CNC yn eu gwaith hanfodol o reoli ein tir a'n hadnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. Rwyf hefyd eisiau achub ar y cyfle hwn i atgoffa Aelodau a'u hetholwyr bod yna gyfle o hyd i helpu i lywio'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Rwy'n annog ffermwyr i gwblhau ein harolwg sydd wedi ei gynllunio ar y cyd, sydd ar agor tan ddiwedd mis Hydref. Mae hwn yn ddarn o waith hanfodol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn wir yn cefnogi'r sector amaethyddol yng Nghymru.
Yn olaf, Llywydd, rwyf eisiau diolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i weithio gyda ni hyd yn hyn, boed yn un o'r miloedd o ffermwyr a ymatebodd i'n tri ymgynghoriad, y rhai a weithiodd gyda ni trwy ein cyfnod cyntaf o gyd-ddylunio, neu'r rhai sydd wedi fy hebrwng o amgylch eu ffermydd gan drafod eu barn a rhannu eu harbenigedd â mi. Rwy'n gwybod bod ffermwyr yn wynebu llawer o heriau, o newid hinsawdd a chytundebau masnach newydd i gynydd mewn costau mewnbynnau a ddaw yn sgil y rhyfel yn Wcráin. Rwyf hefyd yn cydnabod eu bod yn wynebu rhywfaint o ansicrwydd ynghylch ein cynigion, yn enwedig ynglŷn â'r cyfraddau talu sydd ynghlwm â'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Rydw i wastad wedi galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cyllid newydd llawn yn cael ei ddarparu i'r sector, fel yr addawyd. Adlewyrchir yr egwyddor sylfaenol hon yn y dadansoddiad sy'n cyd-fynd â'r Bil. Dyma Fil sydd nid yn unig yn effeithio ar y sector amaethyddol ond ar ein cenedl fawr yn ei chyfanrwydd, o'r bwyd yr ydym ni'n ei fwyta i sut mae wedi ei dyfu, ei gynaeafu, ei storio a'i baratoi ar gyfer ei werthu. Am y tro cyntaf, mae gennym gyfle i greu system o gymorth a deddfwriaeth sy'n gweithio i'n ffermwyr, ein sector, ein tir a'n pobl. Diolch.