Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 27 Medi 2022.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi o'i datganiad a Bil Amaethyddiaeth (Cymru), yn enwedig gan ei bod wedi cael prynhawn prysur iawn yn y Siambr.
Nid yw'n danddatganiad i ddweud bod y ddogfen 45 tudalen hon, ynghyd â'r memorandwm 475 tudalen, yn cynrychioli'r ailwampio mwyaf a mwyaf arwyddocaol mewn polisi amaethyddol ers geni'r sefydliad hwn. Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, dyma'r cyfle cyntaf i gael Bil amaethyddiaeth wedi ei eni a'i fagu yng Nghymru, darn penodol o ddeddfwriaeth sy'n ceisio adlewyrchu natur unigryw y diwydiant. Mae'r tair blynedd diwethaf wedi gweld llu o ddigwyddiadau daearwleidyddol, o bandemig byd-eang i oresgyniad anghyfreithlon Wcráin. Yn gyson drwy bob un o'r digwyddiadau hyn oedd y tarfu ar gadwyni cyflenwi byd-eang. Rhaid i ni geisio cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu, hyrwyddo a darparu ar gyfer ffermwyr Cymru, y diwydiant amaethyddol, ein cymunedau gwledig a'n hamgylchedd ledled Cymru. Mae angen i ni gynnig sefydlogrwydd a thwf i'r diwydiant a gwneud y penderfyniad cywir i roi diogeledd bwyd a chynaliadwyedd wrth galon agenda'r Llywodraeth hon.
Fel yr amlygoch chi yn eich datganiad, Gweinidog, elfen allweddol o fewn y ddeddfwriaeth fframwaith hon yw datblygu rheoli tir cynaliadwy. Nawr, rwy'n falch o nodi bod amcanion y fframwaith rheoli tir cynaliadwy wedi symud i ffwrdd o fframio cynaliadwyedd o fewn cyfyngder cul y ddadl amgylcheddol yn unig, ac, mewn gwirionedd, rwy'n croesawu pwyslais newydd ar werth a chynhyrchu bwyd, yn ôl amcan 1 o fewn fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy. Nid oedd yr amcan hwn wedi bodoli mewn fersiynau blaenorol o'r ddogfen hon, felly mae hwn yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir, a gobeithio ei fod yn adlewyrchu agwedd agored a chydweithredol o ran sut y bydd y ddogfen hon yn symud ymlaen dros y misoedd nesaf. Mae'r amcanion hyn hefyd yn cyd-fynd yn dda ag amcanion Bil bwyd Peter Fox.
Er hyn, rwy'n siomedig bod y tri amcan sy'n weddill yn methu â chydnabod pwysigrwydd economaidd ehangach ffermio Cymru, yn enwedig ein ffermydd teuluol. Yn wir, Gweinidog, rydych chi a fi wedi cael sawl trafodaeth am bwysigrwydd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ehangach ffermio yng Nghymru, wrth i gyfraniad economaidd y ffermwr unigol fynd ymhell tu hwnt i gât y fferm. Felly, pan fyddwn yn sôn am ffermio yng Nghymru fel diwydiant, yr hyn sydd gennym yw cymuned sy'n cyfrannu tua £6 biliwn at economi Cymru, diwydiant sy'n cyflogi 17 y cant o holl weithlu'r genedl hon. Ond eto, er gwaethaf hyn, mae eich pedwar amcan rheoli tir yn gynaliadwy ar hyn o bryd yn methu â chydnabod pwysigrwydd economaidd ehangach y diwydiant. O ystyried hyn, byddwn yn ddiolchgar i gael gwybod os yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y dylid rhoi pwyslais cyfartal ar gyflawni canlyniadau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol rheoli tir yn gynaliadwy.
Mae dull cyfannol yn allweddol i weithredu'r agenda hon, ond mae'n rhaid ei gynnal drwy gydol y ddogfen gyfan. Yn anffodus, ar gyfer rhannau o'r ddeddfwriaeth hon, nid yw hynny o reidrwydd yn wir. Fel yr wyf eisoes wedi nodi, mae'r amcanion rheoli tir cynaliadwy yn datgan yn glir eu hymrwymiad i warchod a gwella adnoddau diwylliannol, yn enwedig mewn ymgais i gynnal y Gymraeg a hybu a hwyluso'i defnydd—yn wych—ac eto, ym mhennod 1 y ddogfen ddeddfwriaethol hon, ymddengys nad oes cyfeiriad at y Gymraeg o fewn cwmpas eich 11 o ddibenion allweddol, er gwaethaf y cyfeiriad at amcanion rheoli tir yn gynaliadwy allweddol eraill, megis cynhyrchu bwyd, newid hinsawdd a chadwraeth ecosystemau. O ystyried hyn, sut ydych chi'n bwriadu gwarchod a thyfu'r Gymraeg o fewn y pwerau a nodir yn y Bil amaethyddiaeth heddiw?
Heb amheuaeth: mae hwn yn fframwaith deddfwriaethol uchelgeisiol, sy'n ceisio cefnogi diwydiant amaethyddol ôl-UE sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. 'Diogelu, hyrwyddo a darparu' yw'r tri marc allweddol y byddaf yn eu defnyddio i fesur gwerth ac addasrwydd y Bil a'r hyn y mae'n ei gyflawni. Yng ngeiriau'r FUW, Gweinidog, 'Rydym hanner ffordd yno', ac, wrth i ni graffu ar y ddeddfwriaeth hon a'i diwygio yn y misoedd nesaf, edrychaf ymlaen at chwarae rhan bositif wrth gyfrannu at ei esblygiad i sicrhau'r fargen orau bosibl i ffermwyr Cymru, y diwydiant a'n cefn gwlad. Diolch, Llywydd.