Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 28 Medi 2022.
Weinidog, gallai tua £45 biliwn o ostyngiadau treth i bobl a busnesau erbyn 2027 fod wedi talu am gynnydd o 19 y cant yn y sector cyhoeddus, ar wella gwasanaethau, llenwi swyddi gwag a thyfu'r economi yma yng Nghymru lle mae bron i draean y bobl yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus. Weinidog, nid yw'r gyllideb fach gan Lywodraeth y DU yn gwneud fawr ddim i helpu'r sector cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, i ymdopi â phwysau chwyddiant a recriwtio gweithlu i ddarparu gwasanaethau lleol lle mae eu hangen yn fwy nag erioed yn awr. Weinidog, pa gynlluniau sydd gennych i helpu gyda recriwtio a'r pwysau y mae llywodraeth leol yn ei wynebu, fel y gallant barhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru? Diolch.