1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 28 Medi 2022.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella perfformiad llywodraeth leol o ran darparu gwasanaethau lleol? OQ58435
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi sefydlu gweithdrefn berfformio newydd i ysgogi gwelliant mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Ochr yn ochr â hyn, rwyf wedi cytuno i ddarparu cyllid o £800,000 ar gyfer rhaglen wella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi gwelliant corfforaethol o fewn cynghorau.
Diolch am eich ymateb cychwynnol, Weinidog. Fel rwy'n siŵr y byddwch yn ei gydnabod, mae cynghorau'n aml ar y rheng flaen gyda'r gwahanol fathau o bwysau y mae cymunedau'n eu hwynebu ar hyn o bryd, sydd, wrth gwrs, yn cael effaith ganlyniadol ar bwysau o fewn cynghorau. Rwy'n siŵr eich bod wedi nodi erthygl y BBC dros y penwythnos, lle'r oedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr cynghorau'n tynnu sylw at rai o'r problemau sy'n eu hwynebu. Nawr, mae rhai o'r rhain, wrth gwrs, yn ariannol, ond mae peth o'r pwysau i'w deimlo mewn ffyrdd eraill hefyd, boed drwy anawsterau gyda recriwtio ar adegau neu bwysau'n ymwneud â thai—rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn y galw yn y meysydd hynny. Ond mae hyn oll tra bod awdurdodau lleol yn gorfod ymdrin â rhaglen ddeddfwriaethol newydd, gan achosi mwy o bwysau'n aml a mwy o alw am amser swyddogion. Weinidog, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod angen cydbwysedd clir rhwng angen a chapasiti i awdurdodau lleol allu cyflawni, ac rwy'n gwybod bod pryder o fewn awdurdodau lleol fod faint o ddeddfwriaeth newydd sy'n rhaid iddynt ei chyflawni yn rhoi pwysau sylweddol arnynt wrth iddynt geisio darparu eu gwasanaethau hanfodol. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, a oes unrhyw gamau uniongyrchol y byddwch yn eu cymryd o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol i wneud yn siŵr fod capasiti gan ein cynghorau i ddarparu'r gwasanaethau y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt?
Un o'r ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu yw lleihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, felly rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith hwnnw drwy gysylltu â'r awdurdodau lleol, arweinwyr, prif weithredwyr a rhai o fewn Cymdeithas Trysoryddion Cymru ac eraill er mwyn deall yr hyn y maent yn ei ystyried yn faich gweinyddol penodol. Felly, byddwn yn edrych ymlaen at yr adroddiad, ac rwy'n deall fod disgwyl iddo gael ei gyhoeddi—. Mae'n debyg y bydd yn cymryd mis neu ddau o leiaf, ond pan ddaw, bydd yn ein helpu i nodi'r meysydd lle gallwn wneud newidiadau pragmataidd ac ymarferol i helpu i leihau'r baich gweinyddol hwnnw.
Rydym wedi rhoi rhywfaint o arian i awdurdodau lleol i helpu gyda'r gwaith o sefydlu'r cyd-bwyllgorau corfforedig—£100,000 i bob cyd-bwyllgor corfforedig rwy'n credu—er mwyn helpu gyda rhai o'r costau hynny a gweithredu'r ddeddfwriaeth honno. Ond unwaith eto, os oes meysydd penodol o bryder lle gallai fod ffyrdd i Lywodraeth Cymru gefnogi awdurdodau lleol, efallai drwy ddarparu arbenigedd neu ddod o hyd i ffordd o sicrhau mai dim ond unwaith y caiff pethau eu gwneud, yn amlwg byddwn yn awyddus i ddeall beth yw'r problemau penodol hynny a gallwn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i helpu.
Weinidog, gallai tua £45 biliwn o ostyngiadau treth i bobl a busnesau erbyn 2027 fod wedi talu am gynnydd o 19 y cant yn y sector cyhoeddus, ar wella gwasanaethau, llenwi swyddi gwag a thyfu'r economi yma yng Nghymru lle mae bron i draean y bobl yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus. Weinidog, nid yw'r gyllideb fach gan Lywodraeth y DU yn gwneud fawr ddim i helpu'r sector cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, i ymdopi â phwysau chwyddiant a recriwtio gweithlu i ddarparu gwasanaethau lleol lle mae eu hangen yn fwy nag erioed yn awr. Weinidog, pa gynlluniau sydd gennych i helpu gyda recriwtio a'r pwysau y mae llywodraeth leol yn ei wynebu, fel y gallant barhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am godi hynny ac wrth gwrs, rwy'n credu mai un o effeithiau mwyaf y datganiad a wnaed ddydd Gwener diwethaf fydd y ffaith nad oedd dim byd o gwbl ynddi i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud ddoe fod cyllideb Llywodraeth Cymru, ar draws y tair blynedd yma, yn werth hyd at £4 biliwn yn llai na phan wnaethom osod ein cynlluniau gwario, ac yn amlwg mae hynny'n cael sgil-effaith ar lywodraeth leol a'r penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid iddynt eu gwneud dros yr hydref a'r gaeaf, yn ogystal â'r flwyddyn ariannol nesaf. Felly, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddod o hyd i gyllid ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Fe fydd gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol dros y ffin yn cyflwyno'r un dadleuon i Lywodraeth y DU a gorau po gyntaf y byddant yn deffro ac yn cydnabod bod yn rhaid iddynt gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, a byddwn yn gallu darparu'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw wedyn i gefnogi ein hawdurdodau lleol ac iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.