Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 28 Medi 2022.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chwmnïau dŵr i wneud biliau dŵr yn fforddiadwy i bawb, a helpu aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd iawn talu am wasanaethau dŵr. Unwaith eto, fel dywedodd Joel, yn 2021, cyhoeddodd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr adolygiad o fforddiadwyedd a'r cymorth ariannol a oedd ar gael i ddefnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am gynnal yr adolygiad. Argymhelliad allweddol yn yr adolygiad, fel rydych yn cydnabod, oedd sefydlu cynllun fforddiadwyedd dŵr unigol ar gyfer Cymru a Lloegr.
Felly, hyd nes y gwneir y penderfyniad hwnnw ar weithredu cynllun unigol, mae cwmnïau dŵr wedi mabwysiadu mesurau rhagweithiol i gynorthwyo pob aelwyd sy'n cael trafferth gyda'u biliau dŵr, gan gynnwys negeseuon gweladwy iawn ar sut i gael cymorth. Ar hyn o bryd, mae cwmnïau dŵr yng Nghymru yn cynorthwyo dros 145,000 o aelwydydd drwy wahanol gynlluniau. Mae'r Gweinidog cyllid a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi siarad â Llywodraeth y DU ynglŷn â gweithredu i leddfu'r baich ariannol ar aelwydydd Cymru yn gyffredinol, ac fe wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau gyfarfod â'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr ddoe i drafod eu galwad am gynllun cyffredinol, sut y gellid talu amdano a sut y gallem ei weithredu. Rydym hefyd wedi siarad â Dŵr Cymru ynglŷn â chyfeirio'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu at fudd-daliadau yn y dyfodol, oherwydd mae Joel yn llygad ei le—mae'n arwydd; yn aml, dyma fydd y bil cyntaf na chaiff ei dalu, ac mae'n arwydd fod pobl yn ei chael hi'n anodd.
Er hynny, yn rhan o'r sgwrs gyda'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, rhaid imi ddweud bod elfen wleidyddol bendant i'r ffordd y dylid ariannu'r cynllun hwnnw, oherwydd ar hyn o bryd mae Ofwat—ac yn wir Ofgem, pan fyddant yn ei drafod—yn sôn am gynllun fforddiadwyedd cyffredinol y telir amdano gan gwsmeriaid eraill. Mae arnaf ofn fy mod o'r farn y dylai'r Llywodraeth ysgwyddo cyfrifoldeb ac ariannu'r cynlluniau hynny'n uniongyrchol, a pheidio â throsglwyddo'r gost i ddefnyddwyr eraill y gwasanaethau hynny. Felly, mae gwahaniaeth pendant yn y ffordd y credwn y dylid gweithredu hynny. Ond er hynny, rwy'n credu ei bod yn bwysig cael cynllun cyffredinol y mae pobl yn ei ddeall ac sy'n syml, felly rwy'n sicr yn cefnogi'r alwad am hynny. Yn y cyfamser, bydd pecyn cymorth £380 miliwn Llywodraeth Cymru yn helpu aelwydydd i ymdopi â'r argyfwng costau byw, ac mae ein cynllun pwyslais ar incwm wedi rhyddhau incwm ar gyfer biliau eraill na chânt eu cynnwys yn y mesurau hynny. Mae blaenoriaethu anghenion y tlotaf a'r rhai sydd fwyaf tebygol o brofi tlodi neu gael eu hallgáu yn hollbwysig.
Gan droi wedyn at ansawdd dŵr, dŵr yw un o'n hasedau cenedlaethol mwyaf ac mae'n rhan annatod o ddiwylliant, treftadaeth a hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn seiliedig ar amgylchedd naturiol iach a sylfaen asedau gwydn. Rydym yn rhagweld sector dŵr a dŵr gwastraff gwydn yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid a'r amgylchedd, yn integredig, yn gynaliadwy ac yn wydn, gan gynnig gwerth i gwsmeriaid a'r amgylchedd. Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ein gweledigaeth a'n huchelgais i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae ein seilwaith cyflenwi dŵr a thrin dŵr gwastraff yng Nghymru dan bwysau gwirioneddol oherwydd newid hinsawdd, fel yr ydym wedi'i drafod droeon yn y Siambr hon. Mae newidiadau i ddwysedd a dosbarthiad poblogaeth a datblygiadau newydd yn cyfrannu at hyn. Er enghraifft, byddai cael gwared ar yr holl orlifoedd storm presennol yn brosiect hirdymor drud-ar-garbon gwerth biliynau o bunnoedd, nid dyna fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella ansawdd dŵr ac ni fyddai'n gallu gwrthsefyll pwysau cynyddol newid hinsawdd. Er hynny, rydym yn cydnabod yr angen i weithredu ar unwaith, ac rydym wedi sefydlu'r tasglu gwella ansawdd afonydd i werthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant yn gyflym.
Ond nid yw mynd i'r afael â gorlifoedd ond yn un o nifer o elfennau sydd angen sylw os ydym am wella ansawdd dŵr yng Nghymru. Rydym wedi darparu ar gyfer rhaglen waith gwerth miliynau o bunnoedd dros sawl blwyddyn i wella ansawdd dŵr, sy'n werth cyfanswm o £40 miliwn dros y tair blynedd nesaf, ac rydym yn ysgogi cydweithio rhwng rhanddeiliaid a rheoleiddwyr, er enghraifft, drwy'r tasglu a'r byrddau rheoli maethynnau, sydd wedi'u sefydlu ar gyfer afonydd pob ardal cadwraeth arbennig yng Nghymru. Rydym hefyd wedi adeiladu systemau draenio cynaliadwy sy'n orfodol ym mhob datblygiad adeiladu newydd, bron iawn. Bydd hyn yn helpu i leddfu'r pwysau ar y rhwydwaith drwy ailgyfeirio ac arafu'r cyflymder y mae dŵr wyneb yn mynd i mewn i'r system garthffosiaeth, ac mae'n helpu i sicrhau bod gorlifoedd storm ond yn cael eu defnyddio fel dewis olaf.
Rwyf wedi bod yn glir fod angen inni fabwysiadu dull rheoli dalgylch integredig iawn, gan ganolbwyntio ar gydweithredu rhwng sectorau ac atebion sy'n seiliedig ar natur i sbarduno gwelliannau i ansawdd dŵr. Ond fel y mae pawb wedi cydnabod, ni ellir tanbrisio'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae hwn yn brosiect hirdymor y mae angen inni weithredu arno ar unwaith, ond gyda nodau tymor canolig a hirdymor. Rhaid i bawb ohonom gydweithio a datblygu dull tîm Cymru o weithredu fel y gallwn fynd i'r afael â'r risgiau niferus sy'n effeithio ar ein llynnoedd, ein hafonydd a'n nentydd, a sicrhau gwelliannau go iawn i ansawdd y dyfrffyrdd. Mae angen tryloywder, didwylledd a hyblygrwydd arnom yn ein hymateb i fynd i'r afael â'r materion ansawdd dŵr sy'n ein hwynebu yng Nghymru, ac mae'r tasglu a sefydlwyd o ganlyniad i'r uwchgynhadledd yn Sioe Frenhinol Cymru yn bwrw ymlaen â hynny yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol sy'n bosibl. Rydym hefyd yn cyfarfod ag ystod o randdeiliaid ledled Cymru a bydd fy archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth, a fydd yn cyhoeddi ei argymhellion ddydd Llun nesaf, yn mynd i'r afael â'r mater hwn hefyd. Diolch.