– Senedd Cymru am 4:57 pm ar 28 Medi 2022.
Felly, symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer gyntaf heddiw. Galwaf ar Joel James i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo—Joel James.
Ac os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n dawel os gwelwch yn dda.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o weld fy mod wedi denu tyrfa o'r fath ar gyfer fy nadl ar ddŵr, felly mae hynny'n wych. Hoffwn gadarnhau fy mod wedi cytuno i roi munud o fy amser i Mike Hedges a Sam Kurtz. Roeddwn am godi’r ddadl hon heddiw ar faterion dŵr yng Nghymru am amryw o resymau, a’r prif reswm oedd am fy mod yn credu nad ydym, fel Senedd, yn rhoi digon o sylw i’r heriau a wynebir gan y diwydiant dŵr yn y wlad hon. Yn benodol, o ran cynnal fforddiadwyedd biliau a’r rhan gymhleth y mae’n ei chwarae yn y gwaith o reoli tir a dyfrffyrdd.
Fel y gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon, nid biliau ynni cartrefi a busnesau yw’r unig filiau cyfleustodau y mae’r cynnydd digynsail mewn costau ynni cyfanwerthol yn effeithio arnynt. Nid yn unig fod y diwydiant dŵr yn wynebu costau ynni uwch ei hun, ond yn aml iawn, hwnnw yw'r bil cyntaf sy'n mynd heb ei dalu pan fo defnyddwyr yn ei chael hi'n anodd talu costau. Mae’r diwydiant dŵr felly’n wynebu her anghymesur, yn yr ystyr fod ei gostau’n cynyddu a’i refeniw'n agored i ansefydlogrwydd a dirywiad, sydd yn y pen draw yn cynyddu biliau i gwsmeriaid eraill. Mae hyn yn bwysig, nid yn unig oherwydd yr effaith ar gyllid cartrefi a busnesau, ond oherwydd y goblygiadau hirdymor i’r sector dŵr. O ganlyniad i newid hinsawdd a thwf y boblogaeth, ymhlith ffactorau eraill, ni allwn anwybyddu anghenion y sector dŵr o ran deddfwriaeth briodol a’r gofyniad i ysgogi newid ymddygiad ymhlith ein poblogaeth. Er mwyn gwneud gwell defnydd o’n hadnoddau naturiol, mae angen inni feddwl yn fwy gofalus am ddefnyddio dŵr yn gynaliadwy a’r effeithiau y mae gorlif carthffosiaeth yn eu cael ar ansawdd dŵr ein hafonydd a’n hamgylchedd naturiol.
Yng Nghymru, o’r 1.37 miliwn o aelwydydd sydd gennym, mae nifer syfrdanol, 175,000, yn wynebu tlodi dŵr, sy’n golygu bod dros 5 y cant o incwm eu haelwyd, ar ôl costau tai, yn cael ei wario ar eu biliau dŵr. O’r 175,000 o aelwydydd hynny, dim ond 35 y cant sy’n cael cymorth ariannol i dalu eu biliau dŵr, gan olygu bod 114,000 amcangyfrifedig o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr. Canfu ymchwil ar y cyd gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr ac Ofwat, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, fod traean o gwsmeriaid yn ei chael hi'n anodd talu biliau’n weddol aml, ac mae hon yn broblem enfawr sy’n cael ei gwaethygu gan y cynnydd digynsail mewn costau ynni a’r cynnydd mewn cyfraddau llog a chwyddiant. Ar hyn o bryd, mae cynlluniau fforddiadwyedd yn wahanol ar gyfer pob cwmni dŵr yng Nghymru, ac mae hyn yn creu problemau, gan fod gennym loteri cod post, bron â bod, o ran eich cymhwystra i gael cymorth ai peidio, a faint.
Felly, mae CCW, a arferai gael ei alw'n Gyngor Defnyddwyr Dŵr, yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i weithredu cynllun fforddiadwyedd dŵr unigol ar gyfer Cymru a Lloegr, er mwyn sicrhau nad oes neb yn ei chael hi'n anodd talu eu bil dŵr. Ac fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i annog Llywodraeth Cymru i gefnogi cynllun fforddiadwyedd cyffredinol ledled Cymru a Lloegr, ac i weithio gyda'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a Llywodraeth y DU i helpu i gyflawni hyn. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi sefydlu gweithgor i archwilio hyfywedd cynllun fforddiadwyedd dŵr unigol, ac yn bwriadu ymgynghori ar y cynnig, gyda'r cynllun arfaethedig yn cael ei ariannu o gronfa ganolog ac yn helpu i sicrhau nad yw'r costau'n anghymesur i'r ardaloedd daearyddol sydd â'r problemau tlodi dŵr mwyaf, fel Cymru. Mewn gwirionedd, mae modelau'n awgrymu y byddai cynllun unigol i'r diwydiant yn debygol o leihau'r croes-gymorthdaliadau cyfartalog presennol ar gyfer biliau dŵr yng Nghymru, gan ddarparu cymorth mwy cynhwysfawr, ac fe fyddwn i felly'n argymell, yn y ffordd gryfaf bosibl, fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n llawn â'r ymgynghoriad a'r cynnig hwn.
Yn ogystal â'r cynllun fforddiadwyedd hwn, hoffwn annog y Llywodraeth hon hefyd i annog cwmnïau dŵr yng Nghymru i lansio ymgyrchoedd cydgysylltiedig ar lefel genedlaethol i roi gwybod i bobl am y cymorth sydd eisoes ar gael iddynt, a gwneud cymorth sy'n gysylltiedig â dŵr yn fwy gweladwy drwy asiantaethau cynghori eraill, fel y canolfannau cyngor ar bopeth. Credaf y byddai hyn yn gam gwerthfawr i helpu pobl ledled Cymru, yn enwedig gan fod tystiolaeth wedi dangos bod pobl sy'n cael trafferthion gyda dyled ac sy'n fregus yn ariannol yn cymryd dros ddwy flynedd ar gyfartaledd i ofyn am help ac o ganlyniad, mae eu trafferthion ariannol yn aml iawn yn arwain at broblemau iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion, gellid bod wedi osgoi'r trafferthion hyn gydag ymyrraeth gynharach ac ymwybyddiaeth o'r cynlluniau fforddiadwyedd a dileu dyledion sydd ar gael iddynt. Hoffwn atgoffa'r Llywodraeth hon a'r Aelodau yma ei bod o fudd i bawb pan fydd y rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau dŵr yn cael yr help a'r cymorth sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl, nid yn unig oherwydd ei fod yn eu helpu hwy i leddfu'r pryder a'r straen sy'n deillio o'i chael hi'n anodd fforddio biliau a rheoli cyllid aelwyd, ond oherwydd bod y ddyled y maent yn mynd iddi yn aml yn cael ei hadennill gan gwmnïau dŵr drwy filiau uwch i gwsmeriaid eraill, a allai fod yn ei chael hi'n anodd hefyd.
I droi at reoli tir a dyfrffyrdd a materion sy'n effeithio ar ein hamgylchedd naturiol, fel newid hinsawdd, rydym yn gwybod bod gan gwmnïau dŵr ddyletswydd gofal i gynnal a gofalu am rannau o'n hamgylchedd naturiol, ac mae'r arian sydd ei angen i wneud hyn yn dod o refeniw biliau. Os caiff sefyllfa ei chreu lle mae cwmnïau dŵr yn mynd yn brin o refeniw oherwydd bod lefelau dileu dyled yn rhy uchel, mae'n lleihau'r arian sydd ar gael i gwmnïau reoli asedau, a allai arwain yn anffodus at lawer o'r problemau amgylcheddol y clywn amdanynt yn y Siambr hon. Yng Nghymru, a ledled y Deyrnas Unedig, mae angen buddsoddiad sylweddol mewn rhwydweithiau dŵr a charthffosiaeth i sicrhau y gallant wrthsefyll pwysau hinsawdd sy'n newid a phoblogaeth sy'n tyfu, er mwyn datblygu ffynonellau dŵr newydd a pharhau i leihau gollyngiadau a gwastraff o'r rhwydwaith. Mae'n hanfodol fod pobl ar incwm isel yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gadw biliau'n fforddiadwy.
Fel y nododd fy nghyd-Aelod Peter Fox yn ei gwestiwn i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae Cymru bellach yn swyddogol mewn sychder yn dilyn y cyfnod o bum mis sychaf mewn 40 mlynedd, cyfnod lle na chafwyd ond 61 y cant o'r glawiad blynyddol disgwyliedig rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf yng Nghymru. Felly, mae angen inni feddwl yn ofalus iawn, fel poblogaeth, ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio dŵr. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Lloegr, NIC, yn argymell, er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch cynyddol rhwng cyflenwad a galw, y gellir lleihau traean o'r galw am ddŵr drwy helpu ac annog pobl i newid eu hymddygiad a defnyddio llai o ddŵr. Mae NIC hefyd yn awgrymu y gallai lleihau dŵr fod y cam mwyaf cost-effeithiol y gellid ei gymryd i addasu i newid hinsawdd, a byddai cyflwyno mesuryddion deallus yn gyffredinol yn niwtral o ran cost. Hoffwn herio Llywodraeth Cymru felly i sicrhau bod mesurau cynllunio sychder Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys cyfathrebu cyhoeddus ac addysg ar y ffyrdd gorau o ddefnyddio dŵr, yn enwedig gan ein bod yn debygol o brofi tywydd sychder yn amlach, a gofyn iddynt dynnu sylw at unrhyw fentrau y maent yn eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ar ben hynny hefyd, hoffwn gefnogi galwad y Cyngor Defnyddwyr Dŵr i gael asesiad trylwyr o adnoddau dŵr yng Nghymru a datblygu cydnerthedd y seilwaith cyflenwi, ac i hyn gael ei flaenoriaethu yn rhaglenni gwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru yn y dyfodol.
Yng Nghymru, credaf fod yna islif o farn gyhoeddus sy'n ystyried dŵr fel rhywbeth y ceir digonedd ohono, ac felly, nad oes angen inni fod yn ymwybodol o unrhyw broblemau cyflenwi. Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn wir. Er bod Cymru'n wlad lle mae gennym ddigon o lawiad, nid oes gennym gapasiti i storio llawer iawn o ddŵr, oherwydd, yn hanesyddol, nid ydym erioed wedi gorfod gwneud hynny. Oni bai ein bod yn mynd i wario symiau enfawr o arian yn cynyddu ein gallu i gadw dŵr, mae angen inni flaenoriaethu newid ymddygiad ac agweddau'r cyhoedd.
Mae angen i Lywodraeth Cymru, yn fy marn i, dalu mwy o sylw i archwilio ffyrdd y gellir annog pobl i leihau'r galw ar gyflenwadau drwy helpu defnyddwyr i newid eu hymddygiad. I ategu hyn, rwy'n credu y gellir gwneud mwy i annog arloesedd a darparu cynhyrchion pellach sy'n effeithlon o ran y defnydd o ddŵr, a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl arbed dŵr.
Ymhellach, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru sut y maent wedi pwyso ar gwmnïau dŵr i gyflymu amseroedd ymateb i ollyngiadau gweladwy. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adeg pan ofynnir i bobl arbed dŵr oherwydd bod y cyfraddau glawiad wedi bod yn isel. Bydd dangos penderfyniad i fynd i'r afael â gollyngiadau yn helpu i annog pobl i wneud newidiadau bob dydd i'w defnydd o ddŵr.
Ar gyfer fy mhwynt olaf, rwyf am drafod yn fras ansawdd dŵr afonydd a gorlifoedd storm. Nid problem i Gymru'n unig yw hon ond un sy'n effeithio ar y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod gennym ddull cydweithredol o weithio gyda Llywodraeth y DU a'r holl gwmnïau dŵr i wella ansawdd dŵr, ac yn arbennig, i atal carthion rhag gorlifo i afonydd.
Er gwaethaf yr esboniadau niferus ynghylch pam fod gorlifoedd storm yn rhan angenrheidiol o seilwaith carthffosiaeth a nifer gymharol isel o ddigwyddiadau, ni allaf gredu ein bod, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn dal i lygru ein hafonydd a'n dyfroedd arfordirol â charthion. Mae hyn yn niweidiol i'r amgylchedd ac yn gallu bod yn beryglus i nofwyr, a'r canfyddiad y mae'n ei roi i dwristiaid a phoblogaeth Cymru yw nad oes ots gennym am ein hamgylchedd, sydd, fel y gŵyr pawb ohonom, ymhell iawn o'r gwir.
Gyda diddordeb cynyddol y cyhoedd yn effaith gorlifoedd storm ar ansawdd dŵr amgylcheddol, credaf y dylai'r Gweinidog gefnogi'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i ymestyn ei waith yn adolygu llu o argymhellion ar gyfer cynyddu cydnerthedd y seilwaith dŵr gwastraff, gyda'r nod o leddfu perygl llifogydd i'n cymunedau, sicrhau gwasanaethau carthffosiaeth gwydn a gwarchod yr amgylchedd naturiol, gan ddiogelu economïau lleol hefyd.
Hoffwn ddod â fy nghyfraniad i ben drwy ddweud bod gennym rai heriau difrifol i'r diwydiant dŵr yng Nghymru, o ran helpu pobl i allu fforddio eu biliau ac uwchraddio'r rhwydwaith dŵr a charthffosiaeth i ddarparu mwy o gydnerthedd yn erbyn newidiadau hinsawdd a lleihau effaith carthion ar ein hamgylchedd. Er fy mod yn cydnabod bod llawer o waith da iawn yn digwydd, rhaid inni fod yn ymwybodol fod angen mwy o benderfyniad yn y gwaith hwnnw a mwy o frys i'w gyflawni. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
A gaf fi ddiolch i Joel James am roi munud imi yn y ddadl hon? Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd cred y gallech roi unrhyw beth yn y môr a'r afonydd ac y byddai'n gwasgaru, heb broblem o gwbl—byddai'n gwanhau'n ddim. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, daethom i sylweddoli nad oedd hyn yn wir a dechrau glanhau ein hafonydd. Yn anffodus, mae'n ymddangos ein bod bellach yn dychwelyd i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Rwyf am wneud tri phwynt cyflym. Mae carthion heb eu trin yn cael eu gollwng i afonydd fel afon Tawe gan waith trin Trebanos; mae llygredd ffosfforaidd yn arwain at ewtroffigedd yn afon Gwy; mae microblastigion wedi mynd i'r dŵr ym mhob man. Rydym yn yfed y dŵr hwn wedyn ar ôl ei drin. Pe bai pobl yn gweld sut olwg oedd ar y dŵr cyn ei drin, mae'n debyg na fyddent yn ei yfed.
Mae angen glanhau ein hafonydd a dirwyo llygrwyr. Yr unig ffordd y gwnewch chi atal pobl rhag llygru yw pan fydd yn dechrau taro eu pocedi; fel arall, nid yw llygrwyr yn talu dim amdano ac nid yw'n gwneud unrhyw ddrwg iddynt hwy.
Ar 19 Awst, cafwyd gwaharddiad ar ddefnyddio pibelli dŵr mewn rhan fawr o fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ardal a wasanaethir gan gronfa ddŵr Llys-y-frân yn etholaeth fy nghyd-Aelod Paul Davies, sef Preseli Sir Benfro. Yn garedig iawn, fe roddodd Paul ganiatâd i mi fynd i mewn i Breseli Sir Benfro er mwyn imi ymweld â chronfa ddŵr Llys-y-frân i weld pa mor isel oedd lefel y dŵr, ac fe gefais fy syfrdanu gan ba mor isel oedd lefel y dŵr yno. Felly, gadewch inni fanteisio ar y cyfle i ddysgu gan wledydd sydd â hinsawdd sychach na'n gwlad ni er mwyn inni allu cyflwyno'r un math o dechnoleg a systemau sydd ganddynt hwy ar gyfer cadw dŵr fel y gallwn reoli ein dyfroedd yn llawer gwell, gan wybod bod yr hinsawdd wedi newid yn y fath fodd.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl—Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am y cyfle i sôn am bynciau pwysig ac amserol iawn tlodi dŵr ac ansawdd dŵr. Yn wir, mae ein sector dŵr yn wynebu her uniongyrchol a digynsail. Mae newid hinsawdd yn golygu y bydd Cymru, dros yr 20 mlynedd nesaf, yn wynebu gaeafau gwlypach, hafau poethach a sychach, cynnydd yn lefelau'r môr, a thywydd eithafol mwy aml a mwy garw. Bydd yr angen i gyflawni datgarboneiddio, y gallu i wrthsefyll yr hinsawdd a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn galw am atebion arloesol, newid ymddygiad a buddsoddiad hirdymor yn ein seilwaith dŵr. Ar yr un pryd, mae'r heriau costau byw yn waeth na dim a welwyd ers cenhedlaeth, gan roi pwysau ar incwm aelwydydd a gallu llawer o bobl i dalu am hanfodion fel bwyd, dŵr ac ynni. Mae'r pwysau hyn, ynghyd â'r ansicrwydd economaidd a geowleidyddol presennol, yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i fwrw ymlaen gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drechu tlodi drwy flaenoriaethu anghenion y tlotaf a diogelu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o dlodi a chael eu hallgáu. Fel y dywedodd Joel, mae sicrhau mynediad at wasanaethau dŵr a charthffosiaeth teg a fforddiadwy i bobl a busnesau yn ffactor pwysig yn y gwaith o leihau tlodi, ac rydym yn rhoi camau ar waith i werthuso sut y gallwn gyflawni hyn yn y ffordd orau a mwyaf effeithlon.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chwmnïau dŵr i wneud biliau dŵr yn fforddiadwy i bawb, a helpu aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd iawn talu am wasanaethau dŵr. Unwaith eto, fel dywedodd Joel, yn 2021, cyhoeddodd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr adolygiad o fforddiadwyedd a'r cymorth ariannol a oedd ar gael i ddefnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am gynnal yr adolygiad. Argymhelliad allweddol yn yr adolygiad, fel rydych yn cydnabod, oedd sefydlu cynllun fforddiadwyedd dŵr unigol ar gyfer Cymru a Lloegr.
Felly, hyd nes y gwneir y penderfyniad hwnnw ar weithredu cynllun unigol, mae cwmnïau dŵr wedi mabwysiadu mesurau rhagweithiol i gynorthwyo pob aelwyd sy'n cael trafferth gyda'u biliau dŵr, gan gynnwys negeseuon gweladwy iawn ar sut i gael cymorth. Ar hyn o bryd, mae cwmnïau dŵr yng Nghymru yn cynorthwyo dros 145,000 o aelwydydd drwy wahanol gynlluniau. Mae'r Gweinidog cyllid a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi siarad â Llywodraeth y DU ynglŷn â gweithredu i leddfu'r baich ariannol ar aelwydydd Cymru yn gyffredinol, ac fe wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau gyfarfod â'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr ddoe i drafod eu galwad am gynllun cyffredinol, sut y gellid talu amdano a sut y gallem ei weithredu. Rydym hefyd wedi siarad â Dŵr Cymru ynglŷn â chyfeirio'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu at fudd-daliadau yn y dyfodol, oherwydd mae Joel yn llygad ei le—mae'n arwydd; yn aml, dyma fydd y bil cyntaf na chaiff ei dalu, ac mae'n arwydd fod pobl yn ei chael hi'n anodd.
Er hynny, yn rhan o'r sgwrs gyda'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, rhaid imi ddweud bod elfen wleidyddol bendant i'r ffordd y dylid ariannu'r cynllun hwnnw, oherwydd ar hyn o bryd mae Ofwat—ac yn wir Ofgem, pan fyddant yn ei drafod—yn sôn am gynllun fforddiadwyedd cyffredinol y telir amdano gan gwsmeriaid eraill. Mae arnaf ofn fy mod o'r farn y dylai'r Llywodraeth ysgwyddo cyfrifoldeb ac ariannu'r cynlluniau hynny'n uniongyrchol, a pheidio â throsglwyddo'r gost i ddefnyddwyr eraill y gwasanaethau hynny. Felly, mae gwahaniaeth pendant yn y ffordd y credwn y dylid gweithredu hynny. Ond er hynny, rwy'n credu ei bod yn bwysig cael cynllun cyffredinol y mae pobl yn ei ddeall ac sy'n syml, felly rwy'n sicr yn cefnogi'r alwad am hynny. Yn y cyfamser, bydd pecyn cymorth £380 miliwn Llywodraeth Cymru yn helpu aelwydydd i ymdopi â'r argyfwng costau byw, ac mae ein cynllun pwyslais ar incwm wedi rhyddhau incwm ar gyfer biliau eraill na chânt eu cynnwys yn y mesurau hynny. Mae blaenoriaethu anghenion y tlotaf a'r rhai sydd fwyaf tebygol o brofi tlodi neu gael eu hallgáu yn hollbwysig.
Gan droi wedyn at ansawdd dŵr, dŵr yw un o'n hasedau cenedlaethol mwyaf ac mae'n rhan annatod o ddiwylliant, treftadaeth a hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn seiliedig ar amgylchedd naturiol iach a sylfaen asedau gwydn. Rydym yn rhagweld sector dŵr a dŵr gwastraff gwydn yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid a'r amgylchedd, yn integredig, yn gynaliadwy ac yn wydn, gan gynnig gwerth i gwsmeriaid a'r amgylchedd. Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ein gweledigaeth a'n huchelgais i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae ein seilwaith cyflenwi dŵr a thrin dŵr gwastraff yng Nghymru dan bwysau gwirioneddol oherwydd newid hinsawdd, fel yr ydym wedi'i drafod droeon yn y Siambr hon. Mae newidiadau i ddwysedd a dosbarthiad poblogaeth a datblygiadau newydd yn cyfrannu at hyn. Er enghraifft, byddai cael gwared ar yr holl orlifoedd storm presennol yn brosiect hirdymor drud-ar-garbon gwerth biliynau o bunnoedd, nid dyna fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella ansawdd dŵr ac ni fyddai'n gallu gwrthsefyll pwysau cynyddol newid hinsawdd. Er hynny, rydym yn cydnabod yr angen i weithredu ar unwaith, ac rydym wedi sefydlu'r tasglu gwella ansawdd afonydd i werthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant yn gyflym.
Ond nid yw mynd i'r afael â gorlifoedd ond yn un o nifer o elfennau sydd angen sylw os ydym am wella ansawdd dŵr yng Nghymru. Rydym wedi darparu ar gyfer rhaglen waith gwerth miliynau o bunnoedd dros sawl blwyddyn i wella ansawdd dŵr, sy'n werth cyfanswm o £40 miliwn dros y tair blynedd nesaf, ac rydym yn ysgogi cydweithio rhwng rhanddeiliaid a rheoleiddwyr, er enghraifft, drwy'r tasglu a'r byrddau rheoli maethynnau, sydd wedi'u sefydlu ar gyfer afonydd pob ardal cadwraeth arbennig yng Nghymru. Rydym hefyd wedi adeiladu systemau draenio cynaliadwy sy'n orfodol ym mhob datblygiad adeiladu newydd, bron iawn. Bydd hyn yn helpu i leddfu'r pwysau ar y rhwydwaith drwy ailgyfeirio ac arafu'r cyflymder y mae dŵr wyneb yn mynd i mewn i'r system garthffosiaeth, ac mae'n helpu i sicrhau bod gorlifoedd storm ond yn cael eu defnyddio fel dewis olaf.
Rwyf wedi bod yn glir fod angen inni fabwysiadu dull rheoli dalgylch integredig iawn, gan ganolbwyntio ar gydweithredu rhwng sectorau ac atebion sy'n seiliedig ar natur i sbarduno gwelliannau i ansawdd dŵr. Ond fel y mae pawb wedi cydnabod, ni ellir tanbrisio'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae hwn yn brosiect hirdymor y mae angen inni weithredu arno ar unwaith, ond gyda nodau tymor canolig a hirdymor. Rhaid i bawb ohonom gydweithio a datblygu dull tîm Cymru o weithredu fel y gallwn fynd i'r afael â'r risgiau niferus sy'n effeithio ar ein llynnoedd, ein hafonydd a'n nentydd, a sicrhau gwelliannau go iawn i ansawdd y dyfrffyrdd. Mae angen tryloywder, didwylledd a hyblygrwydd arnom yn ein hymateb i fynd i'r afael â'r materion ansawdd dŵr sy'n ein hwynebu yng Nghymru, ac mae'r tasglu a sefydlwyd o ganlyniad i'r uwchgynhadledd yn Sioe Frenhinol Cymru yn bwrw ymlaen â hynny yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol sy'n bosibl. Rydym hefyd yn cyfarfod ag ystod o randdeiliaid ledled Cymru a bydd fy archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth, a fydd yn cyhoeddi ei argymhellion ddydd Llun nesaf, yn mynd i'r afael â'r mater hwn hefyd. Diolch.
Diolch, Gweinidog.