Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi am siarad am fapio moroedd Cymru. Dwi'n falch o gael y cyfle i gyflwyno'r ddadl. Dwi'n ddiolchgar i Sam Kurtz a Joyce Watson am ddangos diddordeb yn y pwnc, a dwi'n hapus iawn i allu rhoi ychydig o amser iddyn nhw gyfrannu cyn i ni glywed ymateb y Gweinidog.
Dydy rhywun ddim yn cael ei ddewis yn aml iawn o'r het i gael cyflwyno dadl fer, ond pan mae'ch enw chi yn cael ei dynnu mae o'n gyfle gwych, ond yn dipyn o gur pen hefyd. Rydyn ni'n delio efo cymaint o faterion sy'n bwysig i'n hetholaethau ni neu'n rhanbarthau ni, sut mae dewis pwnc sy'n gallu cael yr impact mwyaf? Ond mae'r pwnc dwi wedi ei ddewis heddiw yn ddilyniant o ddadl fer y gwnes i ei chyflwyno nôl ar 11 Gorffennaf 2018, a hynny oherwydd bod y ddadl honno wedi cael impact. Mi arweiniodd at weithredu gan y Llywodraeth a, Weinidog, mae fy nisgwyliadau i yn uchel iawn y tro yma hefyd. Efo'r Llywodraeth wedi delifro'r tro diwethaf, dwi'n llawn ddisgwyl y byddwch chi'n delifro'r tro yma hefyd.
Rŵan, cyflwyno'r achos wnes i bryd hynny dros wneud llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, sydd wedi ei lleoli ym Mhorthaethwy yn fy etholaeth i, yn llong ymchwil forol genedlaethol i Gymru. Mi roedd yr adnodd gwerthfawr yma yn wynebu dyfodol ansicr. Mi roeddem ni'n wynebu ei cholli hi, a finnau eisiau ei hachub hi nid am fod ganddi hi a'i rhagflaenydd, y Prince Madog gwreiddiol, bwysigrwydd sentimental i fi a gafodd fy magu ar lannau'r Fenai, ond oherwydd ei bod hi yn rhy bwysig i'w cholli—yn cynnal swyddi yn lleol, yn arf ymchwil pwysig i Gymru, yn arf pwysig i ddenu myfyrwyr i astudio eigioneg ym Mhrifysgol Bangor, yn yr adran honno ym Mhorthaethwy sydd mor uchel ei pharch yn rhyngwladol.
Roeddwn i'n falch bod y Gweinidog ar y pryd wedi deall beth oedd yn y fantol bryd hynny. Mi roedd y Prif Weinidog wedi deall hefyd; dwi'n cofio sgwrsio efo yntau, ac mi ddaeth y Llywodraeth at y bwrdd a ffeindio ffordd ymlaen i gefnogi ymchwil yn defnyddio'r Prince Madog. Mi lwyddon ni i roi bywyd newydd i'r llong, ond rŵan mae eisiau adeiladu ar hynny. Ac mi fyddaf i'n dadlau heddiw y byddai rhaglen genedlaethol i fapio moroedd Cymru yn gallu bod yn rhan ganolog o hynny. Dwi'n meddwl y gall hwn fod yn brosiect strategol o fudd cenedlaethol sylweddol y dylai'r Llywodraeth fod am ei arwain.