Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 28 Medi 2022.
Wel, mae hyn yn sicr yn rhywbeth y bûm yn edrych arno ers imi ddod yn ymwybodol ohono. Yn amlwg, mae angen inni blannu mwy o goed; rydym yn gwybod hynny, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â hynny. Gosododd Cymru Sero Net darged i blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, ac rydym yn bwriadu gwneud hynny fel rhan o'n coedwig genedlaethol i Gymru. Yn amlwg, fel rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy, rydym yn gofyn i ffermwyr ein helpu gyda'r 10 y cant ar draws yr holl dir fferm. Ond rwy'n ymchwilio i'r mater yr ydych newydd ei ddisgrifio, ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu atoch ar ôl ystyried ymhellach.