Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:48, 28 Medi 2022

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Dwi am droi fy sylw rŵan i'r mater o blannu coed ar ffermydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o achos fferm Tyn y Mynydd ar Ynys Môn a'r ffaith i adran goedwigaeth y Llywodraeth brynu tir âr da yno at ddibenion plannu coed. Rŵan, mae tir amaethyddol da yn brin yng Nghymru, ac mae'r Llywodraeth wedi cymryd camau i warchod y tiroedd gorau. Tua 7 y cant yn unig o dir Cymru sy'n cael ei ystyried yn dir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas—tir BMV—ac mae'r tir yma wedi ei raddio yn raddau 1, 2 a 3a. Mae'r tir yma mor bwysig fel bod canllawiau cynllunio y Llywodraeth yn sôn am yr angen i warchod y tir at ddibenion amaeth. Yn wir, fe ataliodd y Gweinidog amgylchedd ddatblygiad fferm solar yn sir Ddinbych yn ddiweddar oherwydd ei fod yn dir BMV.

Ystyriwch fy syndod, felly, wrth fynd ar borthol mapio'r Llywodraeth a gweld fod tir Tyn y Mynydd ar Ynys Môn wedi'i raddio yn dir 2 a 3a, sef ein tir mwyaf ffrwythlon a thir sydd angen ei warchod. Mae gweld adran o'r Llywodraeth yn anwybyddu canllawiau'r Llywodraeth yn gosod cynsail peryglus. Os ydy data'r Llywodraeth yn gywir, yna mae'n rhaid i ni weld cynlluniau ar gyfer Tyn y Mynydd yn newid a'r tir yn cael ei rentu yn ôl i ffermwr ifanc lleol. Rhaid hefyd cryfhau canllawiau er mwyn gwarchod tiroedd amaethyddol gorau Cymru. Ydy'r Gweinidog amaeth felly'n cytuno â mi ei fod yn gwbl annerbyniol fel peth o dir gorau Cymru, sydd i fod i gael ei warchod at ddibenion amaeth, wedi cael ei brynu gan y Llywodraeth at ddibenion coedwigaeth ac yn cytuno y dylid newid y cynlluniau yma yn ddi-oed?