Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:38, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Nid wyf wedi cynnal unrhyw drafodaethau penodol gydag unrhyw faes o fewn y diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru. Mae'n rhaid imi ddweud, dros yr haf, ychydig o'r sefydliadau a'r busnesau y gwneuthum eu cyfarfod—treuliais amser ym mhob ardal awdurdod lleol, a hwy oedd yn dewis pwy y byddwn yn cyfarfod â hwy—fe wnaeth rhai pobl ofyn imi ynglŷn â'r ardoll ymwelwyr. Ni chefais unrhyw drafodaethau penodol, ond yn amlwg, fe wneuthum drosglwyddo pryderon, a hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, fe wneuthum gyfarfod â busnesau a oedd yn cymeradwyo'r hyn yr ydym wedi argymell ei wneud.