Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:39, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n gwbl syfrdanol, o ystyried pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru, nad ydych chi wedi cyfarfod yn benodol â busnesau er mwyn trafod y dreth bosibl bwysig hon arnynt. Mae Go North Wales yn cynrychioli 15,000 o fusnesau ar draws gogledd Cymru, ac fe fyddwch chi'n gwybod eu bod wedi mynegi llawer o bryder. A wnewch chi gytuno i ymuno â mi mewn cyfarfod gyda Go North Wales, a chynrychiolwyr eraill o'r diwydiant twristiaeth, er mwyn ichi glywed ganddynt hwy o lygad y ffynnon am effaith andwyol bosibl y dreth gosbol a diangen hon ar dwristiaid sy'n aros dros nos yng Nghymru, a'r effaith y gallai ei chael ar swyddi a bywoliaeth pobl yn y rhanbarth?