Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu buddsoddiad a chymorth sylweddol i'r diwydiant bwyd. Mae ein rhaglen masnachu bwyd yn sicrhau archebion cynnyrch Cymreig newydd gan fanwerthwyr, a bydd canllawiau caffael cyhoeddus newydd yn blaenoriaethu buddion economaidd-gymdeithasol ehangach. Bydd ein polisi prydau ysgol am ddim hefyd yn agor cyfleoedd i gyflenwyr a chynhyrchwyr lleol.