Bwydydd Lleol

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 28 Medi 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:57, 28 Medi 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb. Wrth gwrs, mae dwy ochr i gynhyrchu bwyd—cyflenwad a galw. Rydym yn nesu'n gyflym at y Nadolig, a bydd pobl yn prynu bwyd o ffynonellau lleol, ac rwy'n credu bod cyfle go iawn yma, efallai'n fwy nag erioed, i ganolbwyntio meddyliau pobl ar brynu'n lleol—y bobl hynny, wrth gwrs, sydd ag unrhyw arian ar ôl i brynu unrhyw beth o gwbl ar ôl y gyllideb hon. Hoffwn ofyn i chi, Weinidog, a wnewch chi weithio gyda chyflenwyr lleol i allu gwerthu eu nwyddau i'r farchnad leol. Rydym wedi gweld llawer o hyn yn ystod y cyfyngiadau symud, a mabwysiadwyd arferion da iawn gan gyflenwyr lleol ar ffurf hamperau bwyd a phethau tebyg. Rwy'n credu y gallem fod yn wynebu argyfwng arall yn y farchnad, felly hoffwn ofyn a ydych chi'n meddwl ar hyd y llinellau hynny, a pharhau a hyrwyddo'r arferion da iawn a welwyd ddwy flynedd yn ôl, ac i gymhwyso hynny yn awr.