Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 28 Medi 2022.
Yn sicr, a diolch am eich ymateb, Weinidog. Roedd yn sicr yn braf clywed eich bod yn trafod safle mor bwysig gyda Gweinidog yr Economi, ac rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â mi ei fod yn newyddion gwych gweld Stena Line yn buddsoddi yn y porthladd i hybu eu gweithrediadau, sy’n gydnabyddiaeth glir o’r cyfleoedd gwych sydd gan borthladd Caergybi i’w cynnig. Gwyddom hefyd, Weinidog, fod Stena ar flaen y gad yn ceisio darparu porthladd rhydd yng Nghaergybi, a fyddai mor fuddiol i ogledd Cymru, ac wrth gwrs, mae wedi cael cefnogaeth lawn consortiwm cais porthladd rhydd Ynys Môn, dan gadeiryddiaeth Virginia Crosbie. Yng ngoleuni hyn, Weinidog, sut y byddwch yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi a Stena Line i sicrhau y manteisir i’r eithaf ar y cyfle gwych i gael porthladd rhydd, a fydd yn rhoi hwb i’n heconomi yng ngogledd Cymru, yn cefnogi cymunedau ac yn creu swyddi?