Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch. Gwn fod Gweinidog yr Economi wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch porthladdoedd rhydd. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud iddynt gael dechrau anodd, ond fel y gwyddoch, gwnaethom lansio ein rhaglen porthladd rhydd yng Nghymru gyda Llywodraeth y DU ar 1 Medi, rwy'n credu. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn ailddychmygu rôl porthladdoedd yn nyfodol economi Cymru. Mae Caergybi'n borthladd mor bwysig, ac fel y dywedwch, i Ynys Môn, mae’n gwbl hanfodol. Credaf mai'r hyn yr ydym yn edrych arno yw sut y gallwn symleiddio gweithdrefnau tollau; rydym yn sicr wedi gweld cynnydd mewn biwrocratiaeth ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae angen inni edrych ar ryddhad ar dollau tramor, buddion treth a hyblygrwydd datblygu. Felly, rydym bellach yn gwahodd ceisiadau ar gyfer porthladd rhydd cyntaf Cymru. Mae hynny wedi’i nodi yn y prosbectws a gyhoeddwyd, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’n hamcanion. Rydym hefyd wedi dadlau'n llwyddiannus y bydd angen i borthladd rhydd yng Nghymru weithredu mewn modd sy'n cyd-fynd â'n polisïau yma yng Nghymru ar waith teg a phartneriaeth gymdeithasol.