Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 28 Medi 2022.
Diolch. Mewn perthynas â phwynt olaf eich cwestiwn, dywedais yn fy ateb cynharach i Sam Rowlands fy mod yn credu ei bod yn gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod angen i hyn gyd-fynd â’n polisïau gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol, felly rwy'n gobeithio y bydd hynny’n tawelu eich meddwl. Cefais sgwrs ag arweinydd cyngor Ynys Môn yn sioe Môn, ynghylch y cyfleoedd y gallai hyn eu cynnig i Gaergybi, ond fel y dywedaf, Gweinidog yr Economi, yn amlwg, a fydd yn arwain ar hyn, a bydd yn parhau i gael trafodaethau â’r awdurdod lleol hefyd.